Manod Mawr

mynydd (661m) yng Ngwynedd

Mae Manod Mawr yn gopa mynydd a geir ym mryniau Ffestiniog rhwng Cwm Penmachno a Blaenau Ffestiniog; cyfeiriad grid SH724446. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 395metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Manod Mawr
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr661 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9841°N 3.90156°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH724446 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd266 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaArenig Fach Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddY Moelwynion Edit this on Wikidata
Map

Copa yn Eryri yw Manod Mawr, i'r dwyrain o dref Blaenau Ffestiniog ac i'r dwyrain o'r briffordd A470, gyda Llyn y Manod a Manod Bach i'r de-orllewin o'r copa, a Llyn Bowydd a Moel Penamnen i'r gogledd; cyfeiriad grid SH724446. Mae dau gopa i'r mynydd, yr ail ychydig i'r gogledd o'r prif gopa.

Ceir chwareli llechi ar raddfa fawr yn yr ardal yma, a saif Chwarel Graig Ddu rhwng dau gopa'r Manod, ar uchder o 600 medr, gyda Chwareli'r Manod ychgydig i'r dwyrain.

Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 395metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Golygfa o Manod Mawr gan edrych tua Moel Penamnen.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 661m (2169tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 10 Mawrth 2007.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu