Radio Kerne

Gorsaf radio iaith Lydaweg

Mae Radio Kerne yn radio gymunedol iaith Llydaweg, a grëwyd yn 1998,[1] sy’n darlledu rhaglenni yn ardal Bro-Gerne sef, rhan dde-orllewinnol département Penn-ar-Bed, yn yr iaith Lydaweg yn unig. Mae'n darlledu ar dri amledd: 90.2 (Kemper), 92.0 (Douarnenez) a 97.5 (Konk-Kerne).

Radio Kerne
Enghraifft o'r canlynolgorsaf radio Edit this on Wikidata
Stiwdio Radio Kerne

Agorwyd antena RNT newydd ym mis Gorffennaf 2019 yn Naoned,[2] yn dilyn dilysu'r prosiect gan y CSA ym mis Ionawr 2018.[3][4] Dyma'r unig gangen yn yr iaith Lydaweg yn département Loire-Atlantique. Yn 2021, creuwyd swydd newyddiadurwr yn Roazhon gyda'r bwriad o ddatblygu yn rhanbarth Bro-Roazhon.[5].

Cynnwys golygu

Mae Radio Kerne yn radio cyffredinol sy'n darlledu 60 awr o raglenni yn yr iaith Lydaweg bob wythnos, newyddion, adroddiadau, croniclau. Mae'r radio yn rhoi lle pwysig i raglenni cerddorol, gyda rhaglen gerddorol yn canolbwyntio ar gerddoriaeth Lydaweg, cerddoriaeth gyfoes a cherddoriaeth y byd. Radio Kerne yw'r radio cymdeithasu y gwrandewir arno fwyaf o'r 36 o orsafoedd radio Llydaweg, gyda 5,200 o wrandawyr dyddiol.[6][7].

Mae hefyd yn gweithio gyda chyfnewid rhaglenni o fewn y rhwydwaith o orsafoedd radio cysylltiadol yn yr iaith Lydaweg Brudañ ha Skignañ ("trosglwyddo a darlledu") a elwir bellach yn Radio Breizh.[8]

Partneriaethau a chyllid golygu

Cefnogir Radio Kerne gan Gyngor Rhanbarthol Llydaw a Conseil Général Penn-ar-Bed.

Mae Radio Kerne a Radio Kerne Naoned yn rhan o rwydwaith radio’r gymdeithas Llydaweg “Brudañ ha Skignañ”, sy’n cynnwys Radio Kreiz Breizh, Radio Bro Gwened, Arvorig FM, Radio Kerne a Radio Kerne Naoned. Cefnogir y rhwydwaith hwn gan Gyngor Rhanbarthol Llydaw, a chynghorau adrannol Penn-ar-Bed, Mor Bihan a Aodoù-an-Arvor.[9] Mae'n caniatáu i radios cysylltiadol gynhyrchu bwletin newyddion dyddiol yn yr iaith Lydaweg yn seiliedig ar gyfuno gwaith newyddiadurwyr o wahanol ystafelloedd newyddion.

Cafodd y prosiect i agor cangen RNT yn Naoned ei gefnogi’n ariannol gan Redadeg hyd at 30,000 ewro10, ac fe’i gwobrwywyd gyda’r gwobrau ar gyfer dyfodol yr iaith Lydaweg 2019, yn y categori cymdeithasu.[10].

Mae Radio Kerne Naoned yn aelod o FRAP (Ffederasiwn Radios Cyswllt yn Pays de la Loire).[11].

Radio Naoned golygu

Yn 2018 bu gweithwyr Radio Kerne a'u cefnogwyr, yn weithredol wrth greu Radio Naoned ar gyfer y ddinas yn Bro-Naoned yn ne ddwyrain Llydaw.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Bretagne-Pays de Loire : radios présélectionnées, CSA.fr
  2. Saint-Herblain. Radio Kerne-Naoned en quête de visibilité, Ouest France, 21 Chwefror 2020
  3. "Une radio 100 % bretonne sur les ondes". Ouest-France. 25 Ionawr 2018..
  4. Décision n° 2018-374 du 23 mai 2018 autorisant l'association Radio Kerne à exploiter un service de radio de catégorie A, Légifrance, 5 Mehefin 2018
  5. Après Nantes, Radio Kerne vise un développement à Rennes, Côté Quimper, 9 Medi 2021
  6. Médias. Radio Kerne à la conquête de l'est breton, Le Télégramme, 9 Mawrth 2018
  7. Quimper. Une antenne de Radio Kerne à Nantes, Côté Quimper, 5 Chwefror 2018
  8. "Brudañ ha Skignañ : les radios bretonnes brittophones se mettent en réseau". Agence Bretagne Presse. 15 Hydref 2008.
  9. "Brudañ ha Skignañ: les radios bretonnes brittophones se mettent en réseau". Agence Bretagne Presse. 15 Hydref 2008..
  10. Plonéis. Radio Kerne primée pour sa modernité, Ouest France, 14 Mawrth 2019
  11. Radio Kerne Naoned ouvre ses portes au public, La Lettre Pro, 17 Medi 2020

Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am radio. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato