Enw neu ymadrodd difrïol sydd yn cyfeirio at ethnigrwydd neu hil yw sarhad ethnig neu sarhad hiliol. Maent yn aml yn seiliedig ar stereoteipiau.

Enghreifftiau golygu

Sarhad Grŵp ethnig neu hil Geirdarddiad neu ystyr
Cwli Pobl o Dde a Dwyrain Asia Enw hanesyddol ar weithwyr di-grefft o Dde a Dwyrain Asia, a ystyrir yn enw difrïol heddiw, yn enwedig i ddisgrifio pobl o dras Indiaidd neu Tsieineaidd yn y Caribî, Gaiana, a De Affrica.
Jap Japaneaid Talfyriad o "Japan(eaidd)", a ddechreuodd fel enw didramgwydd. Trodd yn sarhad yn sgil yr Ail Ryfel Byd.
Nigar Pobl dduon Yn syml, "du" yn yr ieithoedd Romáwns yw bôn y gair, ond oherwydd ei ddefnydd hanesyddol fe'i ystyrir yn hynod o gas. Cyfeirir ato yn aml fell "y gair-N".

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.