S'mai golygu

Croeso a diolch am gyfrannu. Mae gwybodlenni (infoboxes) yn gallu bod yn gyhleth. Weithiau mae copio a phastio o'r Saesneg yn gweithio, ond tria hwn https://cy.wikipedia.org/wiki/Nodyn:Gwybodlen_Cwmni

--Rhyswynne (sgwrs) 13:41, 4 Rhagfyr 2013 (UTC)ÂAteb

Sorri Rhys, rwan dw i'n gweld hwn! Dw i wedi ychwanegu'r wybodlen; byddai ehangu'r erthygl ei hun, fodd bynnag yn wych. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:37, 4 Rhagfyr 2013 (UTC)Ateb

Diolch am yr ychwanegiad i'r erthygl. Roeddwn wedi ceisio defnyddio'r wybodlen Saesneg - ond doedd honno'n dda i ddim. Y bwriad ydy ehangu'r erthygl hon a chreu linciau i bynciau yn yr erthygl - megis cerdiau adnabod, MULTOS, ISO 7816, EMV, PKI, ayyb.

--Gwyn 18:00, 4 Rhagfyr 2013 (UTC)Ateb

Mi wnes innau hefyd fewnforio'r wybodlen Saesneg, ond roedd yna ailgyfeiriad i'r wybodlen Gymraeg. Byddai ehangu fel yr awgrymi yn wych! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:10, 4 Rhagfyr 2013 (UTC)Ateb

Dileu tudalen golygu

Os wyt yn creu ethygl gyda theitl anghywir mae modd ei ailewni drwy ei 'symud' drwy glicio ar y saeth bach sydd i'r chwith o'r blwch chwilio (esiampl o'r wiki Saesneg). Mae hyn wedyn yn creu tudalen ailgyfeirio. Defnyddir tudalen ailgyfierio hefyd pan mae mwy nag un sillafiad ar gyfer rhywbeth, e.e. enw lle. Gobeithio nad wy hyn yn ormod o information overload! --Rhyswynne (sgwrs) 09:18, 6 Rhagfyr 2013 (UTC)Ateb

Erthyglau newydd golygu

Croeso i'r Wici a diolch am yr erthyglau newydd diddorol. Dwi wedi tynnu nhw oddi ar y rhestr o Erthyglau newydd a hynny am fod gennym ni gytundeb anysgrifenedig i adael y dewis o erthyglau i'w hychwanegu ati yn nwylo Deb, er mwyn osgoi unrhyw anghydfod rhwng cyfranwyr. Doeddech chi ddim yn gwybod hynny, wrth gwrs, ac felly does dim problem, 'mond i chi gael gwybod pam wnes i hynny. Cofion cynnes, Anatiomaros (sgwrs) 22:59, 8 Rhagfyr 2013 (UTC)Ateb

It's absolutely fine, don't worry! :-) Deb (sgwrs) 17:44, 9 Rhagfyr 2013 (UTC)Ateb

Afon Ddu golygu

Haia. Safle fiolegol neu safle bywydeg/ol? Neu 'bywyd gwyllt', sy'n fwy naturiol? Llywelyn2000 (sgwrs) 22:02, 25 Rhagfyr 2013 (UTC)Ateb

Ydy hwn yn swnio'n well? 'Dynodwyd y safle ar sail ei fywyd gwyllt, er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis adar, gloynnod byw, madfallod, ymlusgiaid neu drychfilod. Mae safleoedd biolegol fel arfer yn ymwneud â pharhad a datblygiad yr amgylchedd megis tir pori traddodiadol.' Llywelyn2000 (sgwrs) 09:18, 26 Rhagfyr 2013 (UTC)Ateb
Diolch i ti! Dw i wedi newid y term i 'fywyd gwyllt' ym mhob achos. Cadwa dy lygad ar yr erthyglau! Diolch a chofion. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:45, 26 Rhagfyr 2013 (UTC)Ateb
Newydd feddwl: mae biological site yn cwmpasu pob rhywogaeth o bopeth byw; ydy 'bywyd gwyllt' hefyd yn cynnwys planhigion, ffwng ayb? Neu ai anifeiliaid yn unig? Llywelyn2000 (sgwrs) 10:50, 26 Rhagfyr 2013 (UTC)Ateb

Cronfa ddata yn troi'n erthyglau golygu

Cymer olwg ar hon; dyma fformat arferol wici. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:53, 4 Mai 2014 (UTC)Ateb

Croeso nol! golygu

Croeso nol! Llywelyn2000 (sgwrs) 20:43, 7 Chwefror 2015 (UTC)Ateb