Gwleidydd o'r Alban yw Steven Paterson (ganwyd 25 Ebrill 1975) a oedd yn Aelod Seneddol dros Stirling rhwng 2015 a 2017; mae'r etholaeth yn swydd Stirling, yr Alban. Mae Steven Paterson yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.[1]

Steven Paterson AS
Steven Paterson


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – 3 Mai 2017
Rhagflaenydd Anne McGuire

Geni (1975-04-25) 25 Ebrill 1975 (49 oed)
Cambusbarron, Stirling, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Stirling
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Alma mater Prifysgol Stirling
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan SNP.org

Ganwyd a magwyd Steven Paterson yn Stirling yn fab i athro a nyrs. Astudiodd y byd cyhoeddi ym Mhrifysgol Robert Gordon yn Aberdeen ac yna Hanes a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberdeen ble graddiodd gydag Anrhydedd.

Gyrfa wleidyddol golygu

Yn 2006 fe'i penodwyd yn rheolwr cyfathrebu un o ASau'r SNP sef Bruce Crawford. Yn 2007 fe'i etholwyd ar Gyngor Swydd Stirling ac erbyn 2013 roedd yn Ddirprwy Arweinydd y sir, ar ran yr SNP.[2]

Etholiad 2015 golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[3][4] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Steven Paterson 23,783 o bleidleisiau, sef 45.6% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +28.3 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 10,480 pleidlais.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Stirling parliamentary constituency - Election 2015 - BBC News". Bbc.co.uk. Cyrchwyd 2015-05-08.
  2. www.dailyrecord.co.uk; adalwyd Awst 2015
  3. Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
  4. Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban