Thomas Edwards (Yr Hwntw Mawr)

Roedd Thomas Edwards, sy'n fwy adnabyddus fel Yr Hwntw Mawr (bu farw 17 Ebrill 1813), yn llofrudd a'r llofrydd olaf i gael ei grogi'n gyhoeddus yn Sir Feirionnydd. (Y dyn olaf i'w grogi'n gyhoeddus ym Meirionnydd oedd John Greenwood a grogwyd am geisio prynu diod yng Ngwesty'r Llew Aur, Dolgellau, gyda papur £5 ffug 15 Mai 1813.)

Thomas Edwards
Bu farw17 Ebrill 1813 Edit this on Wikidata

Er gwaethaf ei enw, ymddengys mai gogleddwr oedd yr Hwntw, ac iddo gael y llysenw oherwydd iddo weithio yn y de am gyfnod. Bu hefyd yn gweithio yng ngwaith copr Mynydd Parys ar Ynys Môn. Dywedir ei fod o faint a chryfder anarferol.

Pan faluriwyd y Cob ym Mhorthmadog gan storm ym mis Chwefror 1812, lai na phedwar mis ar ôl ei hadeiladu, daethpwyd â nifer fawr o weithwyr i'w drwsio, gyda Thomas Edwards yn eu plith. Daeth i wybod fod swm sylweddol o arian yn cael ei gadw yn ffermdy Penrhyn Isaf, heb fod ymhell o Minffordd a gerllaw Portmeirion. Ar 7 Medi 1812, diwrnod pan oedd yn credu fod pawb yn brysur gyda'r cynhaeaf, aeth i'r ffermdy a cheisio agor drôr y seld lle cedwid yr arian. Roedd morwyn ddeunaw oed o'r enw Mary Jones gartref yn paratoi bwyd i'r cynaeafwyr, a daeth i mewn i'r ystafell a dal yr Hwntw. Llofruddiodd yntau hi â gwellaif gneifio.

Parodd y llofruddiaeth ddychryn mawr yn yr ardal, a syrthiodd amheuaeth ar yr Hwntw. Ceisiodd yntau ddianc gyda chriw o ddynion ar ei ôl, a bu ymladdfa wrth iddo geisio croesi Afon Dwyryd. Boddwyd un o'r ymlidwyr, Robert Williams, ewythr i Mary Jones, ond daliwyd yr Hwntw. Gyrrwyd ef i dref Dolgellau yng ngofal chwech cwnstabl, ac wedi ei rwymo ar gefn ceffyl. Er hynny, llwyddodd i ddianc ar y ffordd. Rai dyddiau'n ddiweddarach daliwyd ef gan ŵr o'r enw John Jones, Ynysfor. Aed ag ef i Ddolgellau i'r carchar. Cynhaliwyd yr achos yn ei erbyn yn Llys y Sesiwn Fawr yn y Bala, a chafwyd ef yn euog. Crogwyd ef yn gyhoeddus yn Nolgellau ar 17 Ebrill 1813. Gellir gweld bedd Mary Jones ym mynwent eglwys Llanfrothen.

Llyfryddiaeth golygu

  • T. Llew Jones, "Yr Hwntw Mawr", yn Gwaed ar eu Dwylo (Gwasg Gomer, 1966), tt.13–18