Tour de France 2009

Tour de France 2009 oedd y 96ed rhifyn o'r Tour de France. Datganwyd lle byddai'r rhifyn hwn yn dechrau gan y Tywysog Albert yn Monaco ar 14 Rhagfyr 2007.[1] Dechreuodd y ras ar 4 Gorffennaf yn Monaco gyda threial amser unigol 15 cilomedr o hyd. Roedd y cwrs yn cynnwys rhan o'r Circuit de Monaco. Dechreuodd Cymal 2 yn Monaco hefyd.[2]

Tour de France 2009
Enghraifft o'r canlynolTour de France Edit this on Wikidata
Rhan o2009 UCI World Ranking Edit this on Wikidata
Dechreuwyd4 Gorffennaf 2009 Edit this on Wikidata
Daeth i ben26 Gorffennaf 2009 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganTour de France 2008 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganTour de France 2010 Edit this on Wikidata
Yn cynnwys2009 Tour de France, Stage 1, 2009 Tour de France, Stage 2, 2009 Tour de France, Stage 3, 2009 Tour de France, Stage 4, 2009 Tour de France, Stage 5, 2009 Tour de France, Stage 6, 2009 Tour de France, Stage 7, 2009 Tour de France, Stage 8, 2009 Tour de France, Stage 9, 2009 Tour de France, Stage 10, 2009 Tour de France, Stage 11, 2009 Tour de France, Stage 12, 2009 Tour de France, Stage 13, 2009 Tour de France, Stage 14, 2009 Tour de France, Stage 15, 2009 Tour de France, Stage 16, 2009 Tour de France, Stage 17, 2009 Tour de France, Stage 18, 2009 Tour de France, Stage 19, 2009 Tour de France, Stage 20, 2009 Tour de France, Stage 21 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llwybr y daith yn 2009

Ymwelodd y ras a chwe gwlad: Monaco, Ffrainc, Sbaen, Andorra, y Swistir a'r Eidal.[3] Roedd y ras yn gyfanswm o 3445 cilomedr o hyd, gan gynnwys 93 cilomedr o dreialon amser. Roedd saith cymal mynyddig a thri yn gorffen fyny allt, ac un cymal ar fynydd-canolig.[4] Cynhaliwyd treial amser tîm am y tro cyntaf ers 2005, a chynhaliwyd y treial amser unigol byrraf ers 1967, roedd y cymal olaf yn un fynyddig am y tro cyntaf yn hanes y Tour.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae'r syniad wedi cael ei grybwyll o leihau faint o gyfathrebu sydd yn mynd ymlaen rhwng rheolwyr y ras a'r reidwyr yn ystod y cymalau. Bwriadwyd arbrofi gyda hyn yng nghymalau 10 ac 13 yn 2009, wrth wahardd defnydd darnau-clust.[5]

Timau golygu

Gwahoddwyd 20 o dimau i gymryd rhan yn ras 2009. Maent yn cynnwys 17 o'r 18 tîm UCI ProTour (pob un heblaw Fuji-Servetto), yn ogystal â thri tîm arall a ddewiswyd ar hap: Skil-Shimano, Cervélo TestTeam ac Agritubel. Mae pob tîm yn cychwyn y ras gyda 9 reidiwr, felly mae 180 o seiclwyr yn cymryd rhan.

Yr 20 tîm yw:[6]

Reidwyr golygu

Roedd y ffefrynnau i ennill y ras yn cynnwys enillydd 2008 Carlos Sastre, enillydd 2007 Alberto Contador, enillydd Giro d'Italia 2009 winner Denis Menchov a Cadel Evans a oedd wedi gorffen yn ail ddwy waith.[7] Dychwelodd Lance Armstrong, a oedd wedi ymddeol ar ôl ennill y ras rhwng 1999 a 2005, i gystadlu ar yn un tîm a Contador.

Ni ddewiswyd Alejandro Valverde i gystadlu gan dîm Caisse d'Epargne, er mai ef oedd arweinydd y tîm. Gorffennodd yn y deg uchaf yn y Tour yn y ddwy flynedd cynt, a cysidrwyd ef yn un o'r ffefrynnau i ennill. Derbyniodd waharddiad ym mis Mai 2009, gan y Pwyllgor Olympaidd Eidaleg, yn ei wahardd rhag cystadlu yn yr Eidal. Mae'r Tour yn teithio trwy'r Eidal yn ystod cymal 16 felly nid oedd yn bosibl iddo gystadlu.

Torrodd y newyddion ynglŷn ag ail-brofi sampl tu-allan-i-gystadleuaeth 2007 Thomas Dekker tair diwrnod cyn dechrau'r ras; tynnodd ei dîm, Silence Lotto, ef allan o'r ras yn syth.

Cymalau golygu

Cymal Dyddiad Dechrau Gorffen Pellter Math Enillydd
1 4 Gorffennaf   Monaco , Monaco   Monaco , Monaco 15 cilomedr Treial Amser Unigol   Fabian Cancellara
2 5 Gorffennaf   Monaco , Monaco   Ffrainc , Brignoles 182 cilomedr   Cymal Gwastad   Mark Cavendish
3 6 Gorffennaf   Ffrainc , Marseille   Ffrainc , La Grande-Motte 196 cilomedr   Cymal Gwastad   Mark Cavendish
4 7 Gorffennaf   Ffrainc , Montpellier   Ffrainc , Montpellier 38 cilomedr Treial Amser Tîm Astana
5 8 Gorffennaf   Ffrainc , Le Cap d'Agde   Ffrainc , Perpignan 197 cilomedr   Cymal Gwastad   Thomas Voeckler
6 9 Gorffennaf   Sbaen , Girona   Sbaen , Barcelona 175 cilomedr   Cymal Gwastad   Thor Hushovd
7 10 Gorffennaf   Sbaen , Barcelona   Andorra , Andorra 224 cilomedr   Cymal Mynyddig   Brice Feillu
8 11 Gorffennaf   Andorra , Andorra la Vella   Ffrainc , Saint-Girons 176 cilomedr   Cymal Mynyddig   Luis León Sánchez
9 12 Gorffennaf   Ffrainc , Saint-Gaudens   Ffrainc , Tarbes 160 cilomedr   Cymal Mynyddig   Pierrick Fédrigo
13 Gorffennaf Diwrnod Gorffwys
10 14 Gorffennaf   Ffrainc , Limoges   Ffrainc , Issoudun 193 cilomedr   Cymal Gwastad   Mark Cavendish
11 15 Gorffennaf   Ffrainc , Vatan   Ffrainc , Saint-Fargeau 192 cilomedr   Cymal Gwastad   Mark Cavendish
12 16 Gorffennaf   Ffrainc , Tonnerre   Ffrainc , Vittel 200 cilomedr   Cymal Gwastad   Nicki Sørensen
13 17 Gorffennaf   Ffrainc , Vittel   Ffrainc , Colmar 200 cilomedr   Transition Stage   Heinrich Haussler
14 18 Gorffennaf   Ffrainc , Colmar   Ffrainc , Besançon 199 cilomedr   Cymal Gwastad   Sergei Ivanov
15 19 Gorffennaf   Ffrainc , Pontarlier   Y Swistir Verbier 207 cilomedr   Cymal Mynyddig   Alberto Contador
20 Gorffennaf Diwrnod Gorffwys
16 21 Gorffennaf   Y Swistir Martigny   Ffrainc , Bourg-Saint-Maurice 160 cilomedr   Cymal Mynyddig   Mikel Astarloza
17 22 Gorffennaf   Ffrainc , Bourg-Saint-Maurice   Ffrainc , Le Grand-Bornand 169 cilomedr   Cymal Mynyddig   Fränk Schleck
18 23 Gorffennaf   Ffrainc , Annecy   Ffrainc , Annecy 40 cilomedr Treial Amser Unigol   Alberto Contador
19 24 Gorffennaf   Ffrainc , Bourgoin-Jallieu   Ffrainc , Aubenas 195 cilomedr   Cymal Gwastad   Mark Cavendish
20 25 Gorffennaf   Ffrainc , Montélimar   Ffrainc , Mont Ventoux 167 cilomedr   Cymal Mynyddig   Juan Manuel Gárate
21 26 Gorffennaf   Ffrainc , Montereau-Fault-Yonne   Ffrainc , Paris Champs-Élysées 160 cilomedr   Cymal Gwastad   Mark Cavendish
CYFANSWM 3,459.5 cilomedr

Arweinwyr y dosbarthiadau golygu

Cymal Enillydd Dosbarthiad cyffredinol
 
Maillot jaune
Dosbarthiad Pwyntiau
 
Maillot vert
Brenin y Mynyddoedd
 
Maillot à pois rouges
Reidiwr Ifanc
 
Maillot blanc
Dosbarthiad Tîm
 
Classement par équipe
Gwobr Brwydrol
 
Prix de combativité
1 Fabian Cancellara Fabian Cancellara Fabian Cancellara Alberto Contador Roman Kreuziger Astana dim gwobr
2 Mark Cavendish Mark Cavendish Jussi Veikkanen Stef Clement
3 Mark Cavendish Tony Martin Samuel Dumoulin
4 Astana dim gwobr
5 Thomas Voeckler Mikhail Ignatiev
6 Thor Hushovd Stéphane Augé David Millar
7 Brice Feillu Rinaldo Nocentini Brice Feillu Christophe Riblon
8 Luis León Sánchez Thor Hushovd Christophe Kern Ag2r-La Mondiale Sandy Casar
9 Pierrick Fédrigo Egoi Martínez Franco Pellizotti
10 Mark Cavendish Thierry Hupond
11 Mark Cavendish Mark Cavendish Johan Van Summeren
12 Nicki Sørensen Team Saxo Bank Nicki Sørensen
13 Heinrich Haussler Thor Hushovd Franco Pellizotti Heinrich Haussler
14 Sergei Ivanov Ag2r-La Mondiale Martijn Maaskant
15 Alberto Contador Alberto Contador Andy Schleck Astana Simon Špilak
16 Mikel Astarloza Franco Pellizotti
17 Fränk Schleck Thor Hushovd
18 Alberto Contador dim gwobr
19 Mark Cavendish Leonardo Duque
20 Juan Manuel Gárate Tony Martin
21 Mark Cavendish Fumiyuki Beppu
Terfynol Alberto Contador Thor Hushovd Franco Pellizotti Andy Schleck Astana Franco Pellizotti
Pan mae un reidiwr yn arwain mwy nag un gystadleuaeth ar ddiwedd cymal mae'n derbyn pob crys, ond dim ond un crys gaiff wisgo'r diwrnod canlynol. Mae'n gwisgo crys y gystadleuaeth bwysicaf (yn y drefn yma - melyn, gwyrdd, dot polca, gwyn).[8] Mae'r crysau eraill a ddeillir gan y reidiwr yn cael eu gwisgo gan y reidiwr sy'n ail yn y gystadleuaeth eilradd honno (neu'r trydydd, pedwerydd reidiwr ayb. fel bo'r angen).

Cyfeiriadau golygu

1903 · 1904 · 1905 · 1906 · 1907 · 1908 · 1909 · 1910 · 1911 · 1912 · 1913 · 1914
1915-1918 Gohirwyd oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
1919 · 1920 · 1921 · 1922 · 1923 · 1924 · 1925 · 1926 · 1927 · 1928 · 1929 ·
1930 · 1931 · 1932 · 1933 · 1934 · 1935 · 1936 · 1937 · 1938 · 1939
1940-1946 Gohirwyd oherwydd yr Ail Ryfel Byd
1947 · 1948 · 1949 · 1950 · 1951 · 1952 · 1953 · 1954 · 1955 · 1956 · 1957 · 1958 · 1959 · 1960 · 1961 · 1962 · 1963 · 1964 · 1965 · 1966 · 1967 · 1968 · 1969 · 1970 · 1971 · 1972 · 1973 · 1974 · 1975 · 1976 · 1977 · 1978 · 1979 · 1980 · 1981 · 1982 · 1983 · 1984 · 1985 · 1986 · 1987 · 1988 · 1989 · 1990 · 1991 · 1992 · 1993 · 1994 · 1995 · 1996 · 1997 · 1998 · 1999 · 2000 · 2001 · 2002 · 2003 · 2004 · 2005 · 2006 · 2007 · 2008 · 2009 · 2010 · 2011 · 2012 · 2013 · 2014 · 2015