William Ambrose (Emrys)

gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd, a llenor (1813-1873)

Gweinidog a bardd Cymraeg oedd William Ambrose, a ddefnyddiai'r enw barddol Emrys (1 Awst 1813 - 31 Hydref 1873).

William Ambrose
Ganwyd1 Awst 1813 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Bu farw31 Hydref 1873 Edit this on Wikidata
Porthmadog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
Capel coffa Ambrose, Porthmadog, c.1875

Bywgraffiad golygu

Ganed Emrys ym Mangor, Sir Gaernarfon (Gwynedd) yn fab i John ac Elizabeth Ambrose[1] ac addysgwyd ef yn Ysgol Friars yno ac yng Nghaergybi. Bu'n brentis dilledydd yn Lerpwl am gyfnod, gan ymuno a'r Annibynwyr yno. Aeth i Lundain yn 1834. yn 1837 daeth yn weinidog eglwys annibynnol Porthmadog, a bu yno hyd ei farwolaeth.

Bu farw ym Mhorthmadog 31 Hydref 1873 a chladdwyd ef ym mynwent Capel Helyg, Llangybi. Adeiladwyd Capel Coffa iddo ym Mhorthmadog yn 1879.

Bardd a llenor golygu

Bu'n cystadlu llawer mewn eisteddfodau. Yn Eisteddfod Aberffraw yn 1849, enillodd Morris Williams (Nicander) y Gadair am ei awdl Y Greadigaeth, ond bu helynt am fod un o'r beirniaid, Eben Fardd, eisiau rhoi'r wobr i awdl Emrys.

Ysgrifennodd nifer o emynau poblogaidd, mae pedwar enghraifft o'i gwaith i'w gweld yn Caneuon Ffydd gan gynnwys ei emyn:

Arglwydd gad i'm dawel orffwys
Dan gysgodau'r palmwydd clyd
Lle yr eistedd pererinion
Ar eu ffordd i'r nefol fyd,
Lle'r adroddant dy ffyddlondeb
Iddynt yn yr anial cras
Nes anghofio'u cyfyngderau
Wrth foliannu nerth dy ras [2]

Bu'n cyd olygydd cylchgrawn Y Dysgedydd o 1853 i 1873 [3]

Cyfeiriadau golygu

  1. AMBROSE , WILLIAM yn y Bywgraffiadur ar lein adalwyd Hydref 31 2014
  2. Caneuon Ffydd, Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol, Gwasg Gomer 2001 ISBN 1903754003
  3. Ambrose, William yn Eminent Welshmen t 10 adalwyd Hydref 31 2014

Llyfryddiaeth golygu

  • Gweithiau y Parch. W. Ambrose (1875)
  • Gweithiau Rhyddieithol y Parch. William Ambrose, Porthmadog (1876)
  • Ceinion Emrys (1876). Cerddi.
  • William Ambrose yn Y Bywgraffiadur Cymreig
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.