'Tis Pitty she's a Whore

Mae 'Tis Pitty She's a Whore yn drasiedi gan John Ford.

'Tis Pitty she's a Whore
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurJohn Ford Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1633 Edit this on Wikidata
Genretragedy Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afCockpit Theatre Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tis Pitty Shee's a Whore, 1633

Yn ôl bob tebyg fe'i pherfformwyd am y tro cyntaf rhwng 1629 a 1633,[1] gan Queen Henrietta's Men yn y Cockpit Theatre. Fe'i chyhoeddwyd ym 1633, ac fe'i hargraffwyd gan Nicholas Okes ar gais y llyfrwerthwr Richard Collins. Cyflwynwyd Ford ei ddrama i John Mordaunt, Iarll 1af Peterborough a Barwn Turvey.

Ym 1661 fe welodd Samuel Pepys berfformiad yn y Salisbury Court Theatre. Cafwyd trosiad i'r Ffrangeg ym 1894 gan Maurice Maeterlinck dan enw ei phrif gymeriad Annabella, a'i chynhyrchu yn Théâtre de l'Œuvre.[2]

Pwnc Llosg golygu

Pwnc y ddrama yw llosgach, ei brif thema, ac roedd yn sgandal yn ei hamser.[3] Dileuwyd hi o gasgliad 1831 dramâu Ford. Tan yr ungeinfed ganrif - ac o hyd - mae'r testun yn codi gwrychyn y beirniaid. Does dim condemniad o'r cymeriadau - er eu bod nhw ill dau yn farw erbyn y diwedd. "Instead of stressing the villainy, Ford portrays Giovanni as a talented, virtuous, and noble man who is overcome by a tumultuous passion that brings about his destruction."[4] Er y gallem, bellach, drafod y pwnc mae cusan Brawd a Chwaer ar lywfan yn dal yn brofoclyd.[5]

 
Angelique Rockas as Annabella in Tis Pity directed by Declan Donnellan, New Theatre, London 1980

Braslun golygu

Mae Giovanni'n dychwelyd o brifysgol Bologna, ac mae e dros ei ben a'i glustiau mewn cariad a'i chwaer hardd Annabella. Wedi trafod ei gariad efo'r Brawd Bonaventura mae Bonaventura yn ceisio newid ei feddwl. Dan ddylanwad Bologna mae Giovanni'n dal at ei syniadau.

Mae Annabella, sydd nawr wedi dod i oed priodi, yn caru ei brawd hefyd, er fod dynion yn ceisio'i chanlyn sef; Bergetto, Grimaldi and Soranzo. Ond mae hi'n gwrthod pob un ac yn cyffesu wrth ei chydymaith Putana - yn syndod i bawb mae Putana yn rhoi sêl ei bendith ar y berthynas losgachol. Mae'r pâr yn caru yn nwydwyllt yn nhŷ eu tad.

Mae'r tri darpar ŵr iddi yn cynllwyno a ffraeo rhyngddynt, lleddir un, ac un arall yn dod o hyd i ferch mwy addas ond mae Anabella'n cytuno i briodi'r trydydd. ond yn parhau ag ei pherthynas efo'i brawd. Cyn diwrnod y briodas daw'n amlwg ei bod hi'n feichiog efo plentyn ei brawd ac mae ei gŵr newydd yn wyllt gynddeiriog.

Mae'r gwas ffyddlon Vasques yn dial mewn ffordd erchyll ar Putana ar ôl cael y stori lawn ohoni. Mae Annabella'n ceisio rhybuddio'i brawd rhag lid ei gŵr ond mae Giovanni'n mynnu dod i'r briodas - lle mae'n cael cyfathrach efo'i chwaer ar ei gwely priodas, ac wedyn yn ei lladd hi. Efo ei chalon ar fin ei gyllell mae'n dychwelyd i'r parti priodas a chyffesu'r cwbl. Mae Vasques a'i Banditti yn ei ladd e o flaen pawb.

Daw y ddrama i ben gyda'r Cardinal yn gorchymyn bod Putana i'w losgu wrth drawst a thros gorff gwaedlyd Anabella mae'r Cardinal yn datgan amdani "who could not say, 'Tis pity she's a whore?"

Cymeriadau golygu

Dynion

  • Brawd Bonaventura — Brawd crefyddol a chyfeswr i Giovanni's
  • Cardinal — Nuncio i'r Pab
  • Soranzo — Bonheddwr (darpar-ŵr Annabella ac wedyn ei ŵr)
  • Florio — Dinesydd Parma, a thad Annabella a Giovanni
  • Donado — Dinesydd Parma, ac ewythr Bergetto
  • Grimaldi — Bonheddwr o Rufain (darpar-ŵr Annabella)
  • Giovanni — Mab Florio (enw pedairsill ydyw)
  • Bergetto — Nai Donado (darpar-ŵr Annabella ac wedyn dyweddi Philotis )
  • Richardetto — Gŵr Hippolita, ewythr Philotis -ond yn cogio bod yn feddyg enwog
  • Vasques — Gwas ffyddlon Soranzo, sbaenwr
  • Poggio — Gwas Bergetto
  • Banditti — Llofruddwr, giang treislon
  • Swyddogion

Gwragedd

  • Annabella — Merch Florio
  • Hippolita — Gwraig Richardetto (a chy-cariad Soranzo)
  • Philotis — Nith Richardetto (wedyn dyweddi Bergetto)
  • Putana — Cydymaith a 'chaperone' Annabella (mae'r enw yn golygu Putain)

Mewn dramâu a ffilmiau eraill golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Terence P. Logan and Denzell S. Smith, The Later Jacobean and Caroline Dramatists, Lincoln, NE, University of Nebraska Press, 1978; p. 141.
  2. "John Ford" o'r Encyclopædia Britannica Eleventh Edition
  3. Logan and Smith, p. 127.
  4. Mark Stavig, John Ford and the Traditional Moral Order, Madison, WI, University of Wisconsin Press, 1968; p. 95.
  5. 2014 ,Martin Wiggins, `John Ford` in the section on 'Tis Pity She`s a Whore` Major productions of the 20th century [1]

Dolenni allanol golygu