Ávila
Dinas yng ngorllewin Sbaen yw Ávila, yng nghymuned ymreolaethol Castilla y León, a phrifddinas talaith Ávila. Mae'n enwog am y mur sy'n amgylchynu'r ddinas, sydd mewn cyflwr arbennig o dda, ac am y nifer fawr o eglwysi.
Math | bwrdeistref Sbaen |
---|---|
Prifddinas | Ávila City |
Poblogaeth | 57,741 |
Pennaeth llywodraeth | Jesús Manuel Sánchez Cabrera |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Teresa of Ávila |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Red de Juderías de España |
Sir | Province of Ávila |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 231.9 km² |
Uwch y môr | 1,132 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Adaja |
Yn ffinio gyda | Herradón de Pinares, Tornadizos de Ávila, Riofrío, Gemuño, El Fresno, La Colilla, Martiherrero, Bularros, Marlín, Monsalupe, Cardeñosa, Mingorría, San Esteban de los Patos, Tolbaños, Berrocalejo de Aragona, Mediana de Voltoya, Ojos-Albos, Santa María del Cubillo, Navalperal de Pinares |
Cyfesurynnau | 40.654347°N 4.696222°W |
Cod post | 05001–05006 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Mayor of Ávila |
Pennaeth y Llywodraeth | Jesús Manuel Sánchez Cabrera |
Saif ar fryn creigiog, 1,182 medr uwch lefel y môr. Mae hanes y ddinas yn mynd yn ôl i'r cyfnod cyn y Rhufeiniaid, pan oedd Óbila yn un o gaerau (castros) llwyth y Vetones. Yn y cyfnod Rhufeinig, gelwid y ddinas yn Abila neu Abela. Gellir gweld llawer o olion o'r cyfnod hwn. Yn ddiweddarach daeth yn ddinas Fisigothaidd, ac roedd mynachlog wedi ei sefydlu yma cyn 687. Yn ddiweddarach cipiwyd hi gan y Mwslimiaid, a daeth yn ddinas strategol bwysig, gyda llawer o ymladd rhyngddynt hwy a'r Cristionogion a geisiai ei chipio. Yn y cyfnod yma yr adeiladwyd y muriau, rhwng yr 11g a'r 14g.
Mae Ávila yn enwog fel man geni'r santes Teresa o Ávila. Yma hefyd y ganed Isabel I, brenhines Castilla, y cerddor Tomás Luis de Victoria a'r athronydd a llenor Jorge Santayana. Cyhoeddwyd y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd yn 1985.