Castilla y León
Un o gymunedau ymreolaethol Sbaen yw Castilla y León. Crewyd y dalaith yn 1983 trwy gyfuno León a Hen Gastillia (Sbaeneg: Castilla la Vieja). Y dalaith yma yw'r fwyaf yn Sbaen o ran arwynebedd, 94,223 km²; mae hefyd yn un o'r rhaniadau mwyaf yn y Gymuned Ewropeaidd. Fodd bynnag, mae'r boblogaeth yn llai na nifer o'r cymunedau ymreolaethol eraill, 2.5 miliwn yn 2005.
| |||||
![]() | |||||
Prifddinas | Valladolid | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg | ||||
Arwynebedd – Cyfanswm – % o Sbaen |
Safle 1af 94,223 km² 18.63% | ||||
Poblogaeth – Cyfanswm (2009) – % o Sbaen – Dwysedd |
Safle 1af 2,563,521 5.48% 27.2/km² | ||||
Statud Ymreolaeth | 2 Mawrth 1983 | ||||
Cynrychiolaeth seneddol – Dirprwyon – Seneddwyr |
33 (o 350) 30 (o 264) | ||||
Arlywydd | Juan Vicente Herrera Campo | ||||
ISO 3166-2 | CL | ||||
Junta de Castilla y León |
Mae Castilla y León yn ffinio ar Asturias a Cantabria yn y gogledd, Aragon, Euskadi a La Rioja yn y dwyrain, Madrid a Castillia-La Mancha yn y de-ddwyrain, Extremadura yn y de a Portiwgal a Galicia yn y gorllewin. Gwatstadtir uchel y Meseta Central yw'r rhan fwyaf o'r dalaith, gydag Afon Douro yn llifo trwyddi. Mae hefyd yn cynnwys nifer o'r dyffrynoedd cyfagos.
Y prif ddinasoedd yw Ávila, Burgos, León, Palencia, Segovia, Soria, Salamanca, Zamora a phrifddinas y gymuned, Valladolid. Rhennir Castilla y León yn naw talaith, sydd a'r un enwau a'r dinasoedd hyn.
Mae chwech Safle Treftadaeth y Byd yn Castilla y León:
- Y Camino de Santiago ("Ffordd Sant Iago").
- Eglwys gadeiriol Burgos
- Hen ddinas Segovia
- Hen ddinas Ávila
- Hen ddinas Salamanca
- Mwynglawdd aur Rhufeinig Las Médulas
- Cloddfeydd archaeolegol Atapuerca ger Burgos, lle cafwyd hyd i rai o ffosiliau dynol cynharaf Ewrop,