Rhanbarth neu 'ymreolaeth' sy'n perthyn i'r Ffindir, yn ne-orllewin y Ffindir yn nwyrain Môr Åland yn y Môr Baltig yw Åland neu Ynysoedd Åland (Swedeg: Åland Skärgård, Ffinneg: Ahvenanmaa). Swedeg yw iaith swyddogol yr ynysoedd.[1] Saif ger aber Gwlff Bothnia. Mae'r casgliad hwn o ysnysoedd yr archipelago, gyda'i gilydd, yn cael eu hystyried fel y rhanbarth lleiaf o Ffindir, ac yn gyfanswm o 0.49% o arwynebedd y Ffindir a 0.50% o'i phoblogaeth.

Åland
Mathrhan o'r Ffindir, cyn faes y gad, endidau tiriogaethol rheolaethol, NUTS Lefel 1 (UE), ynysfor Edit this on Wikidata
PrifddinasMariehamn Edit this on Wikidata
Poblogaeth30,144 Edit this on Wikidata
AnthemÅlänningens sång Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethPeter Lindbäck Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Swedeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGogledd Ewrop Edit this on Wikidata
Gwlady Ffindir Edit this on Wikidata
Arwynebedd1,582.93 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr129 metr Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Baltig Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaFinland Proper, Sir Stockholm, Sir Uppsala, dyfroedd rhyngwladol Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau60.25°N 20°E Edit this on Wikidata
FI-01 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholSenedd Aland Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethPeter Lindbäck Edit this on Wikidata
Map
CMC y pen1,194 million € Edit this on Wikidata
ArianEwro Edit this on Wikidata

Y brif ynys yw Fasta Åland ac arni y trig 90% o boblogaeth ymreolaeth Åland[2] a cheir dros 6,500 o ynysoedd eraill i'r dwyrain o Fasta Åland. Rhyngddi â thir mawr Sweden, gorwedd 38 km (24 milltir) o fôr.

Gan mai rhanbarth sy'n ymreoli ei hunan ydyw, mae'r rhan fwyaf o rymoedd deddfwriaethol yn cael eu gweinyddu gan Lywodraeth Åland ei hun, yn hytrach na Llywodraeth y Ffindir.

Geirdarddiad Golygu

Proto-Norweg yw tarddiad yr enw Åland, a'r gair gwreiddiol, mae'n debyg, oedd *Ahvaland sy'n golygu "Y tir a wnaed o ddŵr". Yn Swedeg datblygodd (neu newidiodd y gair yn nhreigl y blynyddoedd) i Åland, sy'n golygu'n llythrennol "Tir afon", er mai pethau digon prin yw afonydd yn naearyddiaeth Åland. Enw Ffinneg yr ynys ydy Ahvenanmaa.[3]

Cyfeiriadau Golygu

  1. (Saesneg) Aland Islands. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Ionawr 2014.
  2. The Åland Islands
  3. Virrankoski, Pauli. Suomen historia. Ensimmäinen osa. SKS 2001. ISBN 951-746-321-9. Page 59.
  Eginyn erthygl sydd uchod am y Ffindir. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.