Ólavsøka
Ólavsøka yw Diwrnod Nawddsant Ynysoedd y Ffaröe (Føroyar) a'i phrif wyl haf. Ystyrir hi, gyda Diwrnod y Faner Føroyar, y Merkyð a gynhelir ar 25 Ebrill, yn ddiwrnod cenedlaethol. Dethlir yr Ólavsøka dros sawl niwrnod ond mae'r diwrnod ei hun ar y 29ain. Ar y diwrnod hwn bydd y Logting, senedd yr ynysoedd, yn agor ei sesiwn gyntaf. Mae'r Ólavsøka yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau a chystadlaethau gan gynnwys rasus cychod a gemau pêl-droed. Cynhelir ffeinal y rasus cychod ar yr 28 Gorffennaf. Mae hon yn hanner diwrnod o wyliau i aelodau sawl undeb llafur tra bo'r Ólavsøkudagur (Diwrnod Sant Olaff) ar y 29 Gorffennaf yn ddiwrnod llawn o wyliau i aelodau'r geddill,[1] ond nid pob un undeb llafur.
Math | diwrnod cenedlaethol, gwyl genedlaethol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Ynysoedd Ffaröe |
Ystyr llythrennol Olafsoka yw 'Gwylnos St Olaff (vigilia sancti Olavi yn Lladin), er cof am farwolaeth St Olaff ym Mrwydr Stiklestad (gw. Olsok) yn 1030 ond mae'r senedd, y Logting, yn rhagflaenu'r diwrnod nawddsant. Fel sawl gwyl Ffaröeg arall, mae'r vøka (gwylnos) yn cychwyn y noson flaenorol, felly, cychwynir yr Ólavsøka wastad ar 28 Gorffennaf gyda seremoni agoriadol. Mae rhai digwyddiadau hyd yn oed yn cychwyn cyn hynny a cheir Cyngerdd Ólavsøka ar 27ain ers sawl blwyddyn bellach.
Ar ddiwrnod yr Ólavsøka ei hun bydd trigolion yr Ynysoedd yn heidio i'r brifddinas, Tórshavn. Cynhelir y ffeinal rhwyfo yno, sef un o uchafbwyntiau'r calendr chwaraeon. Yn ogystal, ceir arddangosfeydd celf, cerddoriaeth werin a dawnsio Cadwyn Ffaröeg. Mae'r Ddawns Gadwyn ar agor i bawb ac fe'i cynhelir fel rheol yn y Sjónleikarhúsið, sef theatr yn Tórshavn.
Cyfarchiad yr Ólavsøka mewn Ffaröeg yw Góða Ólavsøku! (Noswyl Olaff Dda!).
Cyhoeddwyd y stamp ar y dde gan Postverk Føroya ar 18 Mai 1998, ac mae'r gwaith celf gan Edward Fuglø.
Cyngerdd yr Ólavsøka ar 27 Gorffennaf
golyguCynhelir rhai digwyddiadau cyn y 29ain gan gynnwys Cynger yr Ólavsøka yn Tórshavn a gynhelir ar y 27ain. Fel mewn eisteddfod gall y gyngerdd bara'n hwyr i'r nos. Dechreuodd cyngerdd y flwyddyn 2010 am 8.00 y nos gan orffen am 3.00 y bore.[3]
Parêd Noswyl Ólavsøka a'r Agoriad yn Tinghúsvøllur ar yr 28ain
golyguBydd dechau dathliadau'r Ólavsøka fel rheol yn cychwyn gyda parêd yn Tórshavn o bobl chwaraeon, aelodau cyngor y dre, band prês a marchogwyr. Byddant yn cerdded o ysgol Kommunuskúlin i'r Tinghúsvøllur yn Vaglið sydd ynghannol y dref. Yno bydd torf yn eu disgwyl. Bydd y pobl sy'n gorymdeithio yna'n ymgynnull ar y Tinghúsvøllur sef llain o dir siap triongl sydd o flaen y senedd-dy (Løgtingshúsið og Tinghúsið). Ceir yno araith gan berson a ddewisir yn benodol a dyma bydd agoriad swyddogol Ólavsøka.
Ras Gychod Ólavsøka ar 28 Gorffennaf
golyguCynhelir Ras Gychod yr Ólavsøka wastad ar noswyl yr wyl, ser ar yr 28ain. Bydd sawl ras arall wedi bod cyn y ffeinal mewn pentrefi ar hyd yr ynysoedd. Gelwir rhain yn stevnur, lle ceir ras a gwyk gan ddechrau gyda'r Norðoyastevna yn Klaksvík, a gynhelir unai ar ddiwedd Mai neu dechrau Mehefin. Ar ddiwedd Mehefin cynhelir gwyl ynys Suðuroy (Ynys y De) a elwir yn Jóansøka. Dethlir yr wyl yma bob yn ail flwyddyn. Cynhelir hi yn Tvøroyri a Vágur (ar y blynyddoedd cysefin). Cynhelir y gystadleuaeth rhwyfo Jóansøka wastad ar ddydd Sadwrn. Rhennir rasus cychod Ffaröeg mewn sawl rhan gan gynnwys cymalau i blant, bechgyn, merched, dynion a menywod. Mae'r rasus hefyd wedi eu dosbarthu yn ôl maint y cychod. Mae'r cychod i gyd wedi eu gwneud o bren, a bydd y rhwyfwyr yn eistedd wrth ymyl ei gilydd dau wrth ddau gydag un person yn llywio yn y tu cefn. Gelwir y cychod yn y Ffaröeg yn 5-mannafør, 6-mannafør, 8-mannafør a 10-mannafør. Mae'r cychod sy'n ennill Ras Gychod yr Ólavsøka Boat Race yn ennill tlws ac mae Pencampwys Ynysoedd y Ffaröe yn ennill tlws arall. Rhoir medalai i'r rhwyfwyr hefyd. Hyd ras yr Ólavsøka yw 1 km. Ond bydd plant yn rhwyfo dros bellter llai. Mewn rhai lleoliadau eraill ceir amrywiaeth gyda cychod mwy yn rhwyfo pellter mwy. Mae'r 8-mannafør yn rhwyfo 1,500 metr a'r 10-mannafør yn rhwyfo 2,000 metr. Dydy'r pellter yma ddim yn bosib yn Tórshavn.
Parêd a Cantata yr Ólavsøka ar yr 29ain
golyguAgorir Senedd Ynysoedd y Ffaröe, y Løgting, yn swyddogol ar 29ain. Rho'r Prif Weinidog,yLøgmaður)ei araith a caiff y seneddwyr gyfle i ymateb dros y diwrnodau canlynnol.Ond cyn agor y Løgting, ceir seremoni a ddechreur cyn 11.00a.m. lle bydd offeiriaid, pennaeth yr Heddlu, swyddogionTeyrnas Denmarc a phwysigion eraill yn gorymdeithio o Gadeirlan Torshavn y Dómkirkjan. Wedi'r gwsanaeth yn yr eglwys byddant yn gorymdeithio i'r Senedd-dy, y Tinghúsið. Byddant yno yn sefyll y tu allan i'r Tinghús gan wynebu'r dorf sydd wedi ymgynnull ar y Tinghúsvøllur. Ceir yna gerddoriaeth glasurol a chorawl, y Olavsoka Cantata,a ddechreuir oddeutu ganol dydd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Industry.fo, Frídagar um Ólavsøkuna". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-05. Cyrchwyd 2015-07-28.
- ↑ "Nordlysid.fo". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-23. Cyrchwyd 2015-07-28.
- ↑ Torshavn.fo, "Eitt brak av eini Ólavsøkukonsert!"
- ↑ Torshavn.fo, Ólavsøkukantatan 2009