Ffaröeg

iaith Germanaidd gogleddol, a siaredir yn Ynysoedd Ffaröe

Un o'r ieithoedd Germanaidd Gogleddol yw Ffaröeg, sy'n iaith frodorol i ryw 66,000 o bobl, 45,000 yn byw ar Ynysoedd Ffaröe a'r 21,000 yn Nenmarc a lleoedd eraill.

Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynoliaith, iaith fyw, iaith fregus Edit this on Wikidata
MathWest Scandinavian languages Edit this on Wikidata
Enw brodorolFøroyskt mál Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 69,150 (2015)
  • cod ISO 639-1fo Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-2fao Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3fao Edit this on Wikidata
    GwladwriaethYnysoedd Ffaröe, Brenhiniaeth Denmarc Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuyr wyddor Ladin Edit this on Wikidata
    Corff rheoleiddioFaroese Language Board Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

    Perthynas â ieithoedd eraillGolygu

     
    Y Seyðabrævið, y ddogfen hynaf o'r Ynysoedd Ffaröe. Cafodd ei hysgrifennu mewn Hen Norseg ym 1298.

    Datblygodd yr iaith Ffaröeg o'r Hen Norseg, ac yn fwy penodol o Hen Norseg y Gorllewin, fel gyda Norwyeg, Islandeg, a'r ieithoedd marw Norn a Norseg yr Ynys Las. Yr iaith gyfoes agsaf i'r Ffaröeg yw'r Islandeg - does dim modd i siaradwyr y ddwy iaith deall ei gilydd, ond o'u hysgrifennu, maen nhw'n ymddangos yn debyg oherwydd bod Ffaröeg yn defnyddio orgraff sy'n seiliedig ar eirdarddiad.

    YmgyrchuGolygu

    Rheolwyd yr ynysoedd fel rhan o Ddenmarc am ganrifoedd, a sefydlwyd y Daneg yn iaith swyddogol. Yn yr 20fed ganrif, yn enwedig rhwng 1908 a 1938, roedd ymgyrchu brwd dros statws i'r Ffaröeg, gyda thensiynau rhwng pobl oedd o blaid y Ffaröeg ar y naill law a'r Daneg ar y llall. Ym 1937, sefydlwyd Ffaröeg yn iaith addysg, ym 1938 yn iaith yr Eglwys, ac ym 1948 yn iaith genedlaethol fel rhan o ddeddf Ymreolaeth ynysoedd Ffaröe.