150 CC
blwyddyn
3g CC - 2g CC - 1g CC
200au CC 190au CC 180au CC 170au CC 160au CC - 150au CC - 140au CC 130au CC 120au CC 110au CC 100au CC
155 CC 154 CC 153 CC 152 CC 151 CC - 150 CC - 149 CC 148 CC 147 CC 146 CC 145 CC
Digwyddiadau
golygu- Byddin Gweriniaeth Rhufain dan y praetor Servius Sulpicius Galba, yn gorchfygu'r Lwsitaniaid yn Sbaen. Mae wedyn yn torri ei addweid iddynt ac yn lladd 9,000 ohonynt yn ystod trafodaethau heddwch. Yn ddiweddarach, gwerthir 20,000 arall fel caethion.
- Brwydr rhwng Carthago a Masinissa, brenin Numidia. Mae'r Rhufeiniwr Scipio Aemilianus, sydd yng Ngogledd Affrica i gasglu eliffantod oddi wrth Masinissa, yn ceisio trefnu cytundeb heddwch, ond yn methu,
- Yn Senedd Rhufain, cyhuddir Carthogo o ddechrau rhyfel heb ganiatad Rhufain. Mae Cato yr Hynaf yn galw am ddinistrio Carthago.
- Andriscus yn haeru ei fod yn fab i'r cyn-frenin Perseus ac yn hawlio gorsedd Macedon fel Philip VI. Mae hyn yn arwain at Bedwerydd Ryfel Macedonia a throi Macedon yn dalaith Rhufeinig yn 146 CC.
- Alexander Balas, sy'n hawlio gorsedd yr Ymerodraeth Seleucaidd gan haeru ei fod yn fab i Antiochus IV, yn gorchfygu'r brenin Seleucaidd Demetrius I Soter, mewn brwydr ac yn ei ladd. Mae mab Demetrius I Soter, Demetrius, yn ffoi i Creta.
- Alexander Balas yn cipio'r orsedd ac yn priodi Cleopatra Thea, merch Ptolemi VI Philometor, brenin yr Aifft.
- Mithridates V Euergetes yn olynu ei ewythr Mithridates IV Philopator Philadelphus fel brenin Pontus.
Genedigaethau
golyguMarwolaethau
golygu- Demetrius I Soter, brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd (ganed tua 187 CC)
- Mithridates IV Philopator Philadelphus, brenin Pontus