Cleopatra Thea
Brenhines yr Ymerodraeth Seleucaidd rhwng 125 CC a 121 CC oedd Cleopatra Thea (tua 164 - 121 CC), cyfenw Euergetis.
Cleopatra Thea | |
---|---|
Ganwyd | 164 CC Yr Aifft |
Bu farw | 121 CC, 120 CC o gwenwyn |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Seleucaidd |
Galwedigaeth | brenhines cyflawn |
Swydd | Seleucid ruler |
Tad | Ptolemi VI Philometor |
Mam | Cleopatra II of Egypt |
Priod | Alexandros Balas, Demetrius II Nicator, Antiochus VII Sidetes |
Plant | Antiochus IX Cyzicenus, Antiochus VI Dionysus, Seleucus V, Antiochus VIII Grypus, Seleucus |
Llinach | Brenhinllin y Ptolemïaid |
- Am frenhines yr Aifft, cariad Iŵl Cesar a Marcus Antonius, gweler Cleopatra. Am eraill o'r un enw, gweler Cleopatra (gwahaniaethu).
Roedd Clepatra'n ferch i Ptolemi VI Philometor, brenin yr Aifft a'i wraig Cleopatra II. Priododd Alexander Balas tua 150 CC, a chawsant fab, Antiochus VI Dionysus.
Tua 148 CC, ail-briododd a Demetrius II Nicator. Bu iddynt ddau fab, Seleucus V Philometor ac Antiochus VIII Grypus, ac efallai ferch (Laodice?). Pan gymerwyd Demetrius yn garcharor wrth ymladd yn erbyn Parthia, priododd Cleopatra ei frawd, Antiochus VII Sidetes. Cawsant o leiaf un mab, Antiochus IX Cyzicenus. Tua 129 CC, lladdwyd Antiochus yn ymladd yn erbyn y Parthiaid. Erbyn hyn roedd Demetrius wedi cael ei ryddhau, a dychwelodd i hawlio ei orsedd a'i wraig.
Yn ddiweddarach, ceisiodd Demetrius ymosod ar yr Aifft. Ymatebodd brenin yr Aifft trwy gefnogi Alexander Zabinas, a hawliai fod yn fab i Alexander Balas, fel brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd. Gorchfygodd ef Demetrius ger Damascus. Enciliodd Demetrius i Ptolemais Hermiou, ond roedd pyrth y ddinas wedi eu cau yn ei erbyn ar orchymyn Cleopatra. Aeth ar fwrdd llong i ffoi, ond llofruddiwyd ef ar orchymyn Cleopatra.
O 125 CC hyd 121 CC, Cleopatra oedd yn rheoli'r ymerodraeth. Lladdodd fab hynaf Demetrius, Seleucus, pan geisiodd ef hawlio'r orsedd. Gwnaeth ei mab Antiochus VIII Grypus yn gyd-frenin, ond pan ddangosodd ef arwyddion o annibyniaeth, penderfynodd Cleopatra ei lofruddio. Wedi iddo ddychwelyd o hela yn 121 CC cynigiodd ei fam gwpanaid o win iddo. Roedd Antiochus yn amheus, a gorfododd ei fam i yfed y gwin ei hun. Roedd wedi ei wenwyno, a bu Cleopatra farw.