Y fwyaf o ynysoedd Gwlad Groeg (3220 milltir sgwar) ac un o Beriffereiau Groeg yw Creta (Groeg: Κρήτη, Kríti). Saif yr ynys tua 160 km i'r de o dir mawr Groeg. Roedd y boblogaeth yn 650,000 yn 2005; Heraklion yw'r brifddinas.

Creta
Mathynys, cyrchfan i dwristiaid Edit this on Wikidata
PrifddinasHeraklion Edit this on Wikidata
Poblogaeth623,065 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadMôr Aegeaidd Edit this on Wikidata
SirCrete Region Edit this on Wikidata
GwladGwlad Groeg Edit this on Wikidata
Arwynebedd8,335.88 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,456 metr Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Canoldir, Sea of Crete, Libyan Sea Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.3097°N 24.8933°E Edit this on Wikidata
Hyd254 cilometr Edit this on Wikidata
Map
ArianEwro Edit this on Wikidata
Ynys Creta yng Ngwlad Groeg

Creta oedd safle'r gwareiddiad hynaf yn Ewrop, y gwareiddiad Minoaidd, o tua 2600 CC. hyd 1400 CC.. Mae llawr o hanesion am gyfnod cynnar Creta wedi eu trosglwyddo trwy fytholeg Groeg, er enghraifft y chwedlau am y Brenin Minos, Theseus a'r Minotaur; a'r stori am Daedalus ac Icarus.

Concrwyd Creta gan yr Ymerodraeth Rufeinig yn 69 CC., a daeth dinas Gortyn yn brifddinas talaith Rufeinig oedd weithiau'n cynnwys Cyrenaica yn ogystal â Chreta. Yn ddiweddarach cipiwyd yr ynys gan yr Arabiaid yn 824. Adennillwyd Creta i'r Ymerodraeth Fysantaidd gan Nicephorus Phocas yn 960. Yn 1204 meddiannwyd yr ynys gan Fenis yn stod y Bedwaredd Groesgad, a bu yn eu meddiant hwy hyd nes daeth yn rhan o'r Ymerodraeth Ottoman yn 1669.

Ynys fynyddig yw Creta. Y copa uchaf yw Psiloritis neu Fynydd Ida, 2,456 m (8,057 troedfedd) o uchder.

Enwogion golygu