15810 Arawn
asteroid
Asteroid bychan ym mhrif wregys asteroid Cysawd yr Haul yw 15810 Arawn. Mae'n rhan o wregys Kuiper, sy'n fodrwy o gwmpas planed Neifion. Mae oddeutu 133 cilometr (83 mi) mewn diametr.[1]
Math o gyfrwng | resonant trans-Neptunian object |
---|---|
Dyddiad darganfod | 12 Mai 1994 |
Rhagflaenwyd gan | (15809) 1994 JS |
Olynwyd gan | 15811 Nusslein-Volhard |
Echreiddiad orbital | 0.120003 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fe'i canfuwyd ar 12 Mai 1994 gan y seryddwyr Michael J. Irwin ac Anna N. Żytkow, gan ddefnyddio telesgop 2.5-metr a elwir yn 'Delescop Isaac Newton' yn Arsyllfa Roque de los Muchachos ar Ynys La Palma, un o ynysoedd yr Ynysoedd Dedwydd, Sbaen.[1] Cadarnhawyd 15810 Arawn gan long ofod y New Horizons a dynnodd ei lun, o bellter o 111 miliwn km (69 miliwn mi; 0.74 AU) yn Ebrill 2016.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "15810 (1994 JR1)". IAU Minor Planet Center. Cyrchwyd 26 Awst 2016.
- ↑ http://photojournal.jpl.nasa.gov/catalog/PIA20589