190 CC
blwyddyn
3g CC - 2g CC - 1g CC
240au CC 230 CC 220au CC 210au CC 200au CC - 190au CC - 180au CC 170au CC 170au CC 160au CC 150au CC
195 CC 194 CC 193 CC 192 CC 191 CC - 190 CC - 189 CC 188 CC 187 CC 186 CC 185 CC
Digwyddiadau
golygu- Brwydr yr Eurymedon, rhwng llynges yr Ymerodraeth Seleucaidd a llynges Rhodos a Pergamon, sydd mewn cynghrair a Gweriniaeth Rhufain. Arweinydd y llynges Seleucaidd yw'r cadfridog Carthaginaidd Hannibal. Y Rhodiaid a Pergamon sy'n fuddugol.
- Brwydr Myonessus, rhwng llynges Gweriniaeth Rhufain gyda chymorth y Rhodiad a llynges yr Ymerodraeth Seleucaidd. Gorchfygir y Seleuciaid eto.
- Byddin Rufeinig dan y cadfridog Scipio Africanus a'i frawd Lucius, ac Eumenes II, brenin Pergamon, yn croesi i Anatolia.
- Brwydr Magnesia, ger Magnesia ad Sipylum yn Lydia, Anatolia. Gorchfygir byddin Antiochus III, brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd, gan y brodyr Scipio ac Eumenes II.
- Yn dilyn y frwydr yma, mae dau satrap oedd y llywodraethu dan Antiochus III yn Armenia yn cyhoeddi annibyniaeth; Artaxias fel brenin Armenia Fwyaf a Zariadres fel brenin Sophene (Armenia Minor).
- Yn dâl am ei gymorth i Rufain, mae Eumenes II, brenin Pergamon, yn cael tiriogaethau helaeth, yn cynnwys y rhan fwyaf o diroedd yr Ymerodraeth Seleucaidd yn Anatolia.
- Ymestynir y ffordd Rufeinig Via Appia i Benevento a Venosa.
Genedigaethau
golygu- Hipparchus, mathemategydd a seryddwr Groegaidd
- Cornelia Scipionis Africana, ail ferch Publius Cornelius Scipio Africanus ac Aemilia Paulla.
Marwolaethau
golygu- Apollonius o Perga, mathemategydd a seryddwr Groegaidd