36 Golygfa ar Fynydd Fuji
Cyfres o brintiadau bloc pren ukiyo-e yw Tri deg chwech Golygfa ar Fynydd Fuji (Siapaneg: 富嶽三十六景, Fugaku Sanjūrokkei) gan yr arlunydd Siapaneaidd Katsushika Hokusai (1760–1849). Mae'r gyfres yn darlunio Mynydd Fuji, ar ynys Honshu, Siapan, trwy'r tymhorau ac mewn tywydd amrywiol o sawl lleoliad a phellter. Heddiw mae'n cynnwys 46 print mewn gwirionedd, a grewyd gan Hokusai rhwng 1826 a 1833. Cafwyd 36 yn y cyhoeddiad gwreiddiol ond, am iddi fod yn gymaint o lwyddiant, ychwanegwyd deg arall yn nes ymlaen.
Enghraifft o'r canlynol | series of prints, Q1396354 |
---|---|
Crëwr | Hokusai |
Cyhoeddwr | Nishimuraya Yohachi |
Rhan o | Q101423333 |
Dyddiad cyhoeddi | 1830s |
Dechrau/Sefydlu | 1830 |
Yn cynnwys | The Great Wave off Kanagawa, Fujimigahara in Owari Province, Dawn at Isawa in Kai Province, Fine Wind, Clear Morning, Kajikazawa in Kai province, Lightnings below the summit, Under the Mannen Bridge at Fukagawa, Sundai, Edo, Cushion Pine at Aoyama, Senju in Musashi Province, Tama river in Musashi province, Inume Pass in Kai Province, Asakusa Hongan-ji temple in the Eastern capital, Tsukudajima in Musashi Province, Shichiri beach in Sagami province, Umezawa Manor in Sagami Province, Mishima pass in Kai province, Lake Suwa in Shinano province, Nihonbashi bridge in Edo, A sketch of the Mitsui shop in Suruga street in Edo, Fuji from Ushibori, Province of Hitachi, The Fuji from the mountains of Totomi, Ejiri in Suruga province, Shimomeguro, The Kazusa sea route, Bay of Noboto, Yoshida at Tokaido, Morning after a Snowfall at Koishikawa, Sunset across the Ryogoku bridge from the bank of the Sumida river at Onmaya-gashi, Shore of Tago Bay, Ejiri at Tokaido, Enoshima in Sagami Province, The Lake at Hakone in Sagami Province, Reflection in Lake at Misaka in Kai Province, Watermill at Onden, Hodogaya on the Tōkaidō, Village of Sekiya at Sumida river, Sazai hall - Temple of Five Hundred Rakan, The back of the Fuji from the Minobu river, Pleasure District at Senju, Fuji from the Tea Plantation at Katakura in Suruga Province, Fuji from Gotenyama on the Tōkaidō at Shinagawa, Honjo Tatekawa, The Fuji from Kanaya on the Tokaido, Nakahara in Sagami Province, Ōno Shinden in Suruga Province, Groups of Mountain Climbers |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cefndir
golyguRoedd printiau a darluniau o olygfeydd ar Fynydd Fuji yn destun poblogaidd gan artistiaid ukiyo-e. 36 Golygfa Hokusai yw'r enwocaf o lawer ond ceir sawl cyfres arall, yn cynnwys y gwaith o'r un enw gan Hiroshige a chyfres diweddarach gan Hokusai ei hun, sef Cant Golygfa ar Fynydd Fuji. Yn ogystal ceir nifer o brintiadau a lluniau unigol. Mae gan Fynydd Fuji lle arbennig yn niwylliant a chrefydd Siapan a dyna pam roedd yn denu cymaint o arlunwyr. Credid fod duwies wedi rhoi 'moddion bywyd' ar gopa'r mynydd ac roedd y Siapaneaid yn ystyried fod cyfrinach tragwyddoldeb ynghlwm wrth Fuji, sy'n esbonio obsesiwn Hokusai ac eraill gyda'r mynydd, efallai.
Printiadau
golyguY 36 gwreiddiol
golyguRh. | Delwedd | Teitl Cymraeg | Teitl Siapaneg |
---|---|---|---|
1 | Y Don Fawr oddi ar Kanagawa | 神奈川沖浪裏
Kanagawa oki nami-ura | |
2 | Gwynt deheuol, awyr las (Fuji Coch) | 凱風快晴
Gaifū kaisei | |
3 | Storm glaw islaw'r copa | 山下白雨
Sanka hakū | |
4 | Dan Bont Mannen yn Fukagawa | 深川万年橋下
Fukagawa Mannen-bashi shita | |
5 | Sundai, Edo | 東都駿台
Tōto sundai | |
6 | Aoyama Enza no Matsu | 青山円座松
Aoyama enza-no-matsu | |
7 | Senju, Musashi | 武州千住
Bushū Senju | |
8 | Bwlch Inume, Kōshū | 甲州犬目峠
Kōshū inume-tōge | |
9 | Golygfa ar Ffiji, Talaith Owari | 尾州不二見原
Bishū Fujimigahara | |
10 | Ejiri, Talaith Suruga | 駿州江尻
Sunshū Ejiri | |
11 | Siop Mitsui yn Suruga, yn Edo | 江都駿河町三井見世略図
Kōto Suruga-cho Mitsui Miseryakuzu | |
12 | Machlud dros Bont Ryōgoku o lan afon Sumida yn Onmayagashi | 御厩川岸より両国橋夕陽見
Ommayagashi yori ryōgoku-bashi yūhi mi | |
13 | Neuadd Sazai - Teml y Pum Cant Rakan | 五百らかん寺さざゐどう
Gohyaku-rakanji Sazaidō | |
14 | Tŷ te yn Koishikawa ar ôl bwrw eira | 礫川雪の旦
Koishikawa yuki no ashita | |
15 | Shimomeguro | 下目黒
Shimo-Meguro | |
16 | Rhaeadr yn Onden | 隠田の水車
Onden no suisha | |
17 | Enoshima yn nhalaith Sagami | 相州江の島
Soshū Enoshima | |
18 | Glan Bae Tago, Ejiri yn Tōkaidō | 東海道江尻田子の浦略図
Tōkaidō Ejiri tago-no-ura | |
19 | Yoshida, Tōkaidō | 東海道吉田
Tōkaidō Yoshida | |
20 | Llwybr môr talaith Kazusa | 上総の海路
Kazusa no kairo | |
21 | Pont Nihonbashi yn Edo | 江戸日本橋
Edo Nihon-bashi | |
22 | Tref dollborth ar Afon Sumida | 隅田川関屋の里
Sumidagawa Sekiya no sato | |
23 | Bae Noboto | 登戸浦
Noboto-ura | |
24 | Llyn Hakone yn nhalaith Sagami | 相州箱根湖水
Sōshū Hakone kosui | |
25 | Dal adlewyrchiad Mynydd Fuji yn Llyn Kawaguchi, o Fwlch Misaka yn nhalaith Kai | 甲州三坂水面
Kōshū Misaka suimen | |
26 | Hodogaya ar Ffordd Tōkaidō | 東海道保ケ谷
Tōkaidō Hodogaya | |
27 | Afon Tama ym Musashi | 武州玉川
Bushū Tamagawa | |
28 | Teml Asakusa Hongan-ji ym mhrifddinas y dwyrain (Edo) | 東都浅草本願寺
Tōto Asakusa honganji | |
29 | Ynys Tsukuda ym Musashi | 武陽佃島
Buyō Tsukuda-jima | |
30 | Traeth Shichiri yn Sagami | 相州七里浜
Soshū Shichiri-ga-hama | |
31 | Umegawa yn Sagami | 相州梅沢庄
Soshū umezawanoshō | |
32 | Kajikazawa yn nhalaith Kai | 甲州石班沢
Kōshū Kajikazawa | |
33 | Bwlch Mishima Pass yn nhalaith Kai | 甲州三嶌越
Kōshū Mishima-goe | |
34 | Mynydd Fuji o fynyddoedd Tōtōmi | 遠江山中
Tōtōmi sanchū | |
35 | Llyn Suwa yn nhalaith Shinano | 信州諏訪湖
Shinshū Suwa-ko | |
36 | Ushibori yn nhalaith Hitachi | 常州牛掘
Jōshū Ushibori |
Y 10 ychwanegol
golyguRh. | Delwedd | Teitl Cymraeg | Teitl Siapaneg |
---|---|---|---|
1 | Bryn Goten-yama, Shinagawa, ar ffordd y Tōkaidō | 東海道品川御殿山の不二
Tōkaidō Shinagawa Goten'yama no Fuji | |
2 | Honjo Tatekawa, iard coed Honjo | 本所立川
Honjo Tatekawa | |
3 | Ardal bleser Senju | 従千住花街眺望の不二
Senju Hana-machi Yori Chōbō no Fuji | |
4 | Nakahara yn nhalaith Sagami | 相州仲原
Sōshū Nakahara | |
5 | Ōno Shinden yn Suruga | 駿州大野新田
Sunshū Ōno-shinden | |
6 | Dringo ar Fuji | 諸人登山
Shojin tozan | |
7 | Planhigfa te Katakura, Suruga | 駿州片倉茶園の不二
Sunshū Katakura chaen no Fuji | |
8 | Fuji o Kanaya ar y Tōkaidō | 東海道金谷の不二
Tōkaidō Kanaya no Fuji | |
9 | Y wawr yn Isawa, talaith Kai | 甲州伊沢暁
Kōshū Isawa no Akatsuki | |
10 | Cefn Fuji o afon Minobu | 身延川裏不二
Minobu-gawa ura Fuji |
Llyfryddiaeth
golygu- Nagata, Seiji (1999). Hokusai: Genius of the Japanese Ukiyo-e. Kodansha, Tokyo.
- Smith, Henry D. II (1988). Hokusai: One Hundred Views of Mt. Fuji. George Brasiller, Inc., Publishers, Efrog Newydd. ISBN 0807611956.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Hokusai: 36 Golygfa ar Fynydd Fuji Archifwyd 2017-08-22 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Bywgraffiad Hokusai
- (Japaneg) 葛飾北斎の富士山・富嶽三十六景 Archifwyd 2010-03-15 yn y Peiriant Wayback