48
1 CC - 1g - 2g
00au CC 00au 10au 20au 30au 40au 50au 60au 70au 80au 90au
DigwyddiadauGolygu
- Wedi dienyddiad ei wraig Messalina, mae'r ymerawdwr Rhufeinig Claudius yn cael cytundeb y Senedd iddo briodi ei nith Agrippina yr Ieuengaf.
- Llywodraethwr Prydain, Publius Ostorius Scapula, yn cyhoeddi ei fwriad o ddiarfogi holl drigolion Prydain i'r de o Afon Trent ac i'r dwyrain o Afon Hafren. Mae'r Iceni yn gwrthryfela, ond yn cael eu gorchfygu.
- Yr ymosodiad Rhufeinig cyntaf ar lwythau Cymru, pan mae Ostorius Scapula yn dechrau ymgyrch yn erbyn y Deceangli yn ne-ddwyrain Cymru. Mae'n gorfod rhoi'r gorau i'r ymgyrch pan ddaw newyddion fod y Brigantes wedi gwrthryfela.
- Uchelwyr Gâl yn cael dod yn aelodau o Senedd Rhufain. Mae Claudius yn rhoi dinasyddiaeth Rufeinig i'r Aedui.