AEK
Mae Alfabetatze Euskalduntze Koordinakundea - AEK (Llythrennedd a Chydweithrediad dros Fasgeg) yn fudiad a sefydlwyd ym 1976 i hyrwyddo Euskara – yr iaith Fasgeg trwy ei dysgu fel ail iaith i oedolion.
Enghraifft o'r canlynol | ysgol, cyhoeddwr |
---|---|
Math | language school |
Iaith | Basgeg |
Dechrau/Sefydlu | 1976 |
Pennaeth y sefydliad | Secretary General of AEK |
Aelod o'r canlynol | Confederation of Cooperative Companies of the Basque Country |
Ffurf gyfreithiol | menter gydweithredol, cymdeithas |
Pencadlys | Bilbo |
Gwladwriaeth | Sbaen, Ffrainc |
Gwefan | http://www.aek.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae AEK hefyd yn rhoi cryn bwyslais ar lythrennedd ac yn annog a chynorthwyo oedolion sydd yn siaradwyr Euskara yn barod i fod yn hyderus ysgrifennu a darllen yr iaith.
Mae AEK wedi datblygu rhwydwaith eang o dros 100 Euskaltegi (canolfannau dysgu'r iaith Fasgeg) sydd yn cyflogi dros 600 o athrawon. Mae'r Euskaltegi bellach wedi'u lleoli ym mhob rhan o Euskal Herria (Gwlad y Basg), yn cynnwys yr ardaloedd yn Ffrainc a Nafarroa (Sbaeneg: Navarra).
Dechreuwyd AEK ar ddiwedd cyfnod pan orfodid y Sbaeneg yn unig iaith y wlad gan lywodraeth Madrid.
Ers y 1970au sefydlwyd senedd hunanlywodraethol yn debyg i Gynulliad Cymru mewn tair o saith talaith Gwlad y Basg. Yn yr ardaloedd yma mae'r llywodraeth Basgeg yn noddi'n hael gweithgaredd AEK.
Ond yn y tair talaith yn Ffrainc a hefyd Nafarroa (Sbaeneg: 'Navarra', talaith nid yw lywodraeth Sbaen yn cydnabod fel rhan o weddill Gwlad y Basg) mae statws a defnydd swyddogol o'r iaith dal yn gyfyngedig iawn.
Korrika
golyguPob yn ail flwyddyn, ers 1980, cynhelir y Korrika (Rhedeg) er mwyn codi arian ar gyfer AEK, ac annog pobl i ddysgu Basgeg.
Rhediad 2300 km (1400 milltir) ydy'r Korrika gyda miloedd o bobl yn rhedeg, yn eu tro, rhannau'r marathon trwy'r dydd a trwy'r nos am 11 diwrnod dros Wlad y Basg.
Mae arian yn cael ei godi ar gyfer AEK trwy 'brynu' neu noddi cilomedrau'r rhedwyr.
Mae rhedwr ar flaen y Korrika yn dal yn uchel 'y tyst' sef pastwn pren, yn debyg i'r modd mae rhedwr Olympaidd yn dal y fflam. Mae pastwn 'y tyst' yn cael ei basio ymlaen i redwr nesaf pob cilomedr. Wrth i'r Korrika cael ei rhedeg dydd a nos mae'n meddwl bod pastwn 'y tyst' yn mynd o law i law yn ddi-stop am 11 diwrnod.[1][2]
Wedi'i ysbrydoli gan y Korrika, cynhaliwyd Ras yr Iaith dros y Gymraeg am y tro cyntaf ar Wener 20 Mehefin 2014. Yn ystod y dydd, rhedodd hyd at 1,000 o bobl o Senedd-dy Glyn Dŵr ym Machynlleth trwy ganol trefi Aberystwyth, Tregaron, Llambed, Aberaeron, Cei Newydd, Llandysul, Castell Newydd Emlyn ac Aberteifi[3]
Darllen Pellach
golygu- Korrika: Basque Ritual For Ethnic Identity (The Basque Series), Teresa Del Valle, ISBN 978-0874172157
- Gwlad y Basg - Yma o Hyd! Hanes Goroesiad Cenedl - Robin Evans, 2012. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 9781845273316 (1845273311)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-13. Cyrchwyd 2015-03-24.
- ↑ http://www.euskomedia.org/aunamendi/54923
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-29. Cyrchwyd 2015-03-24.