Rhediad 2300 km (1400 milltir) ydy'r Korrika (Rhedeg) a gynhelir pob ail flwyddyn ers 1980 er mwyn hyrwyddo'r iaith Fasgeg.

Korrika
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad sy'n ailadrodd Edit this on Wikidata
Mathgŵyl ddiwylliannol, relay race Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dechrau/Sefydlu1980 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysKorrika 1980 Edit this on Wikidata
GwladwriaethGwlad y Basg Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.korrika.eus/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Hanes y Korrika, a ysbrydolodd Siôn Jobbins i gychwyn Ras yr Iaith.
15fed Korrika yn mynd trwy Soraluze
Croesawu'r Korrika
Taith Korrika 2013.
Pasio pastwn 'y tyst' o law i law pob cilomedr

Mae miloedd o bobl yn cymryd rhan, gan redeg yn eu tro rhannau'r marathon trwy'r dydd a thrwy'r nos am 11 diwrnod dros Euskal Herria (Gwlad y Basg). Trefnir y rhediad gan fudiad AEK i godi arian ar gyfer eu canolfannau dysgu Basgeg ac ymgyrchoedd llythrennedd i oedolion.

Mae rhedwr ar flaen y Korrika yn dal yn uchel 'y tyst' sef pastwn pren, yn debyg i'r modd mae rhedwr Olympaidd yn dal y fflam. Mae pastwn 'y tyst' yn cael ei basio ymlaen i redwr nesaf pob cilomedr.

Wrth i'r Korrika cael ei rhedeg dydd a nos mae'n meddwl bod pastwn 'y tyst' yn mynd o law i law yn ddi-stop am 11 diwrnod.[1][2]

Mae arian yn cael ei godi trwy 'brynu' neu noddi cilomedrau'r rhedwyr.

Y tu mewn y pastwn mae neges gudd wedi'i ysgrifennu. Tynnir y neges a'i darllen ar ddiwedd y 2300 km fel uchafbwynt y seremoni derfynol.

Slogan y flwyddyn golygu

Tu ôl i'r rhedwr yn dal y pastwn mae trof mawr o redwyr eraill gyda baner slogan Korrika y flwyddyn honno.

Mae rhai slogannau y gorffennnol wedi cynnwys:

  • Euskara, zeurea (Mae Euskara yn berthyn i ti)
  • Maitatu, ikasi, ari... euskalakari (Caru, dysgu, ymarfer yr Iaith)
  • Ongi etorri euskaraz (Croeso i fywyd yn yr iaith)
  • Heldu (Cyrraedd)
  • Yn 2015: Eusk – ahal- dun (chwarae ar y gair 'Euskaldun' = siaradwr yr iaith gyda'r gair 'ahal' = gallu)[3]

Wrth gyrraedd trefi a phentrefi croesawir y rhedwyr gan dorfeydd yn chwifio baneri a digwyddiadau cerddoriaeth a dawnsio.

AEK golygu

Trefnwyr y Korrika yw Alfabetatze Euskalduntze Koordinakundea - AEK (Llythrennedd a Chydweithrediad dros Fasgeg). Mudiad a sefydlwyd ym 1976 i hyrwyddo Euskara – yr iaith Fasgeg trwy ei dysgu fel ail iaith i oedolion.

Mae AEK hefyd yn rhoi cryn bwyslais ar lythrennedd ac yn annog a chynorthwyo oedolion sydd yn siaradwyr Euskara yn barod i fod yn hyderus gyda ysgrifennu a darllen yr iaith.

Mae AEK wedi datblygu rhwydwaith eang o dros 100 Euskaltegi (canolfannau dysgu'r iaith Fasgeg) sydd yn cyflogi dros 600 o athrawon. Mae'r Euskaltegi bellach wedi'u lleoli ym mhob rhan o Euskal Herria (Gwlad y Basg), yn cynnwys yr ardaloedd yn Ffrainc a Nafarroa (Sbaeneg: Navarra).

Dechreuwyd AEK ar ddiwedd cyfnod pan orfodid y Sbaeneg yn unig iaith y wlad gan lywodraeth Madrid.

Ers y 1970au sefydlwyd senedd hunanlywodraethol yn debyg i Senedd Cymru mewn tair o saith talaith Gwlad y Basg. Yn yr ardaloedd yma mae'r llywodraeth Basgeg yn noddi'n hael gweithgaredd AEK. Ond yn y tair talaith yn Ffrainc a hefyd Nafarroa (Sbaeneg: Navarra, talaith nid yw lywodraeth Sbaen yn cydnabod fel rhan o weddill Gwlad y Basg) mae statws a defnydd swyddogol o'r iaith dal yn gyfyngedig iawn.

Mae llywodraeth leol Nafarroa wedi bod yn wrthwynebus i'r Korrika'n croesi eu tiriogaeth a bu tensiwn rhwng y rhedwyr a'r Guarda Civil (heddlu milwrol Sbaen).[4][5]

Ysbrydoli gwledydd eraill golygu

Mae llwyddiant y Korrika wedi ysbrydoli rhediadau dros ieithoedd eraill.

  • Correllengua - Catalunya
  • Correlingua, - Galicia
  • Ar Redadeg - Llydaw
  • Rith – Iwerddon]]
  • Ras yr Iaith – Cymru. Cynhaliwyd fersiwn Cymru o'r Korrika dros y Gymraeg am y tro cyntaf ar Wener 20 Mehefin 2014. Yn ystod y dydd, rhedodd hyd at 1,000 o bobl o Senedd-dy Glyn Dŵr ym Machynlleth trwy ganol trefi Aberystwyth, Tregaron, Llambed, Aberaeron, Cei Newydd, Llandysul, Castell Newydd Emlyn ac Aberteifi[6]

Darllen Pellach golygu

Lleoliad Gwlad y Basg
Taleithiau Gwlad y Basg
  • Korrika: Basque Ritual For Ethnic Identity (The Basque Series), Teresa Del Valle, ISBN 978-0874172157
  • Gwlad y Basg - Yma o Hyd! Hanes Goroesiad Cenedl - Robin Evans, 2012. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 9781845273316 (1845273311)

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-13. Cyrchwyd 2015-03-24.
  2. http://www.euskomedia.org/aunamendi/54923
  3. http://www.korrika.eus/index.php?option=com_content&view=article&id=1154&Itemid=679&lang=es[dolen marw]
  4. Korrika: Basque Ritual For Ethnic Identity (The Basque Series), Teresa Del Valle, ISBN 978-0874172157, tud 152
  5. "El Gobierno de Navarra anula su colaboración con la Korrika por «exaltar el terrorismo»". 30 March 2009. Unknown parameter |autor= ignored (|author= suggested) (help)
  6. http://rasyriaith.cymru/