Basgeg
Iaith Gwlad y Basg yw Basgeg (Basgeg: Euskara; ceir hefyd y ffurfiau Euskera, Eskuara ac Ũskara). Siaredir hi gan dros 700,000 o bobl yng Ngwlad y Basg, y mwyafrif llethol ohonynt yn Sbaen. Ynghyd â'r Sbaeneg, mae hi'n iaith swyddogol o fewn Cymunedau Ymreolaethol Gwlad y Basg.
Basgeg | ||
---|---|---|
Euskara | ||
Siaredir yn | ![]() ![]() | |
Rhanbarth | ![]() ![]() Iparralde | |
Cyfanswm siaradwyr | 665,800 yn 2006[1] | |
Teulu ieithyddol | Basgeg (Unigyn) | |
Statws swyddogol | ||
Iaith swyddogol yn | ![]() | |
Rheoleiddir gan | Euskaltzaindia | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | eu | |
ISO 639-2 | baq (B) | eus (T) |
ISO 639-3 | eus | |
Wylfa Ieithoedd | – |
Nid yw'r Fasgeg yn perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd fel y rhan fwyaf o ieithoedd eraill Ewrop. Mae hi'n unigyn iaith, hynny yw, nid oes perthynas hanesyddol rhyngddi hi ac unrhyw iaith arall, er bod rhai cysylltiadau dadleuol ag ieithoedd y Cawcasws wedi cael eu hawgrymu. Mae'n bosibl felly ei bod yn oroeswr o'r ieithoedd a siaradwyd yng ngorllewin Ewrop cyn dyfodiad yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd.
Hanes yr iaithGolygu
Ceir olion o'r Fasgeg o'r cyfnod Rhufeinig mewn arysgrifau yn yr iaith Acquitaneg o'r dalaith Rufeinig Gallia Aquitania. Y dystiolaeth bwysicaf yw cyfres o arysgrifau Lladin sy'n cynnwys tua 400 o enwau personol a 70 o enwau duwiau. Mae'r rhain yn awgrymu fod gan yr iaith berthynas glos a'r iaith Fasgeg neu'n dafodiaith o'r Fasgeg.
Enghreifftiau o'r iaithGolygu
- Kaixo = Helo
- Eskerrik asko = Diolch
- Ikasle/ak = Myfyriwr/Myfyrwyr
- Euskal Herria/Euskadi = Gwlad y Basg
- Euskara/Euskera = Basgeg
- Txokolatea = Siocled
- Eta = a/ac
- Nire Jauna eta nire Jaunko = Fy Arglwydd a'm Duw (Geiriau Sant Tomos yn y Beibl)
- Bai = Ie
- Ez = Nage
- Kaixo!, Agur! = Hwyl!
- Agur!, Adio! = Tara!
- Ikusi arte = Tan tro nesaf!
- Egun on = Bore da
- Mesedez = Os gwelwch yn dda
- Barkatu = Esgusodwch fi
- Komunak = Tai bach
- Komuna non dago? = Ble mae'r tai bach?
- Non dago tren-geltokia? = Ble mae'r orsaf drên?
- Ba al dago hotelik hemen inguruan? = Ble mae'r gwesty agosaf?
- Zorionak = Gwyliau da
- Ez dut ulertzen / Ez ulertzen dut = Dwi ddim yn deall
- Ez dakit euskaraz = Dwi ddim yn siarad Basgeg
- Ba al dakizu galesez? = Ydych chi'n siarad Cymraeg?
- Zein da zure izena? = Beth ydy'ch enw chi?
- Ongi etorri! = Croeso!
- Egun on denoi = Croeso i bawb!
- Berdin / Hala zuri ere = A chi hefyd
- Jakina! Noski! = Mae'n iawn!
- Nongoa zara? = O ble ydych chi'n dod?
- Non dago ... ? = Ble mae'r ... ?
- Badakizu euskaraz? = Ydych chi'n siarad Basgeg?
- Bai ote? = Wel wrth gwrs?
- Bizi gara! = Yma o hyd!
- Bagarela = Ni hefyd
- Topa! = Iechyd da!
- Hementxe! = Yma ac acw!
- Geldi! = Arhoswch!
- Ez dut nahi... / Ez nahi dut... = Dwi ddim eisiau...
Y Fasgeg yng NghymruGolygu
Trefnwyd gwersi Basgeg bob dydd adeg Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2008 gan Gymdeithas yr Iaith.
LlyfryddiaethGolygu
CyffredinolGolygu
Cyfieithiadau i'r GymraegGolygu
Mae Cyfieithiadau i'r Gymraeg o ambell i stori fer, yn bennaf yn y cylchgrawn Breizh-Llydaw, a gyhoeddir gan Gymdeithas Cymru-Llydaw:
- O eira bedair gwaith (Lau aldiz elur) gan Bernardo Atxaga, cyfieithiad Cymraeg gan Rhisiart Hincks yn Taliesin, tud. 127, rhif 138, Gaeaf 2009.
- Yfory wna i ddim colli Mam (Bihar ez diot amari huts egingo) gan Patxi Zubizarreta, cyfieithiad Cymraeg gan Rhisiart Hincks yn Taliesin tud. 56 rhif 133, Gwanwyn 2008.
- Breuddwydion yn y Gogledd / Huñvreioù en hanternoz skornet (Ametzak iparralde izoztuan) gan Bernardo Atxaga, cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 31 rhif 49, Awst 2008.
- Dirgelion y Swyddfa / Kevrinoù ar Burev (Bulegoko misterioak), stori fer gan Patxi Zubizarreta, cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 37 rhif 47, Awst 2007.
- Y Peiriant Golchi (Garbigailua), gan Patxi Zubizarreta, cyfieithiadau Cymraeg a Llydaweg gan Rhisiart Hincks yn Breizh / Llydaw. tud. 16 rhif 44, Awst 2006.
- Dau Asyn / Daou Azen (Bi Asto), stori fer gan Pernando Amezketarra (2001), cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 25 rhif 42, Ionawr 2006.
- Esgidiau Rhad / Botou Marc'had Mad (Oenataku Merkeak), stori fer gan Pernando Amezketarra (2001), cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 24 rhif 43, Mai 2006.
- Y Fendith / Ar Benediste (Aitaren eta ...), stori fer gan Pernando Amezketarra (2001), cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 24 rhif 41, Awst 2005.
- Erthygl ddwyieithog am Patxi Zubizarreta, yn Llydaweg a Chymraeg, gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 16 rhif 44, Awst 2006.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ IV. Inkesta Soziolinguistikoa Gobierno Vasco, Servicio Central de Publicaciones del Gobierno Vasco 2008, ISBN 978-84-457-2775-1