Aaron Glanz-Leyeles
Bardd, ysgrifwr beirniad llenyddol, golygydd, a chyfieithydd Pwylaidd-Americanaidd, yn yr iaith Iddew-Almaeneg, oedd Aaron Glanz-Leyeles (1889 – 1966). Cyhoeddodd ei farddoniaeth yn bennaf dan yr enw A. Leyeles, a'i ryddiaith dan yr enw A. Glanz.[1]
Aaron Glanz-Leyeles | |
---|---|
Ganwyd | 5 Mawrth 1889 Włocławek |
Bu farw | 30 Rhagfyr 1966 Dinas Efrog Newydd |
Galwedigaeth | llenor |
Ganed ef yn Włocławek yng Ngwlad Pwyl y Gyngres, a fu dan reolaeth Ymerodraeth Rwsia. Mynychodd ysgol y talmwd tora, dan hyfforddiant ei dad, yn Łódź, ac astudiodd lenyddiaeth ym Mhrifysgol Llundain o 1905 i 1908 ac, wedi iddo ymfudo i Efrog Newydd ym 1909, ym Mhrifysgol Columbia o 1910 i 1913. Gweithiodd yn athro mewn ysgolion Iddew-Almaeneg a darlithiodd ar lenyddiaeth yr iaith honno. Golygai sawl cyfnodolyn Iddew-Almaeneg, a chyfrannai erthyglau ar bynciau llenyddol, cymdeithasol, a gwleidyddol i bapur newydd Der Tog am hanner can mlynedd a mwy.[1]
Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Labirint, ym 1918. Ym 1919, sefydlodd Glanz-Leyeles, Jacob Glatstein, a N. B. Minkoff y mudiad In Zikh, tueddiad modernaidd mewn barddoniaeth Iddew-Almaeneg yr Unol Daleithiau a daenai ar led drwy gyfrwng y cylchgrawn In Zikh. Mae ei ail gasgliad o gerddi, Yungharbst (1922), yn esiamplau o ysbryd In Zikh. Ymhlith ei gyfrolau eraill o farddoniaeth mae Rondos un Andere Lider (1928), Tsu Dir – tsu Mir (1933), yr hunangofiant mydryddol Fabius Lind (1937), ei ymateb i'r Holocost A Yid Oyfn Yam (1947), Baym Fus Fun Barg (1957), a'i deyrnged i Americaniaeth Amerike un Ikh (1963).[1]
Arbrofai hefyd gyda'r ddrama fydryddol, a derbyniodd glod am Shlomo Molkho (1926), hanes David Reubeni a Solomon Molcho, dau Feseia honedig o'r 16g. Ystyriwyd bod Glanz-Leyeles yn lleisio ei gefnogaeth i'r mudiad y Tiriogaetholwyr Iddewig, a fu'n gweithredu dros wladwriaeth i'r Iddewon y tu allan i'r Tir Sanctaidd. Mae ei ail ddrama, Asher Lemlen (1928), yn ymwneud â'r gwrthdaro rhwng hiraeth yr Iddewon am y Meseia a'u bywydau gwleidyddol a chymdeithasol. Cyflawnai Glanz-Leyeles gyfieithiadau o'r ieithoedd Saesneg, Rwseg, a Phwyleg i'r Iddew-Almaeneg, gan gynnwys gweithiau o Edgar Allan Poe. Cesglid ysgrifau beirniadol gwychaf Glanz-Leyeles yn y gyfrol Velt un Vort (1958).[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Sol Liptzin ac Anita Norich, "Glanz-Leyeles, Aaron" yn Encyclopaedia Judaica. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 6 Rhagfyr 2021.