Dinas yng nghanolbarth Gwlad Pwyl yw Włocławek a leolir yn nhalaith (foifodiaeth) Kujawsko-Pomorskie. Saif ar lannau Afon Vistula.

Włocławek
Trem ar Włocławek o'r awyr, gan gynnwys golwg o'r eglwys gadeiriol Gothig o'r 14g a'r palas esgobol a godwyd yn yr 17g.
Mathdinas gyda grymoedd powiat, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth104,705 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 10 g Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Mogilev, Bedford, Izmail, Saint-Avold Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Pwyleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolZwiązek Miast Nadwiślańskich Edit this on Wikidata
SirKuyavian-Pomeranian Voivodeship Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl
Arwynebedd84.32 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Vistula, Włocławek Reservoir Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.65°N 19.05°E Edit this on Wikidata
Cod post87-800 — 87-822 Edit this on Wikidata
Map

Mae'n debyg i Włocławek gael ei sefydlu yn y 10g, un o'r trefi mawr cyntaf yn Wielkopolska (Pwyl Fawr). Yn yr 11g daeth yn sedd i esgobion rhanbarth Kujawy, a derbyniodd Włocławek freintiau dinesig ym 1256. Astudiodd y seryddwr enwog Copernicus yno ym 1489–91. Yn sgil rhaniadau Gwlad Pwyl yn niwedd y 18g, daeth Włocławek yn rhan o Deyrnas Prwsia. Yn ystod Rhyfeloedd Napoleon, cipiwyd y ddinas gan Ddugiaeth Warsaw, gwladwriaeth ddibynnol ar Ymerodraeth Ffrainc. Wedi cwymp Napoleon ym 1815, daeth Włocławek dan dra-arglwyddiaeth Ymerodraeth Rwsia fel rhan o Wlad Pwyl y Gyngres. Dychwelodd y ddinas i Wlad Pwyl annibynnol wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn y 19g adeiladwyd y felin bapur a ffatri fwydion gyntaf yng Ngwlad Pwyl yn Włocławek, a daeth y ddinas yn ganolfan ddiwydiannol fawr. Ffynnai'r diwydiant seliwlos yn y cyfnod wedi'r Ail Ryfel Byd, ond dirywiodd erbyn diwedd yr 20g. Mae'r economi hefyd yn dibynnu ar amaeth, y diwydiant cemegion, a chynhyrchu bwyd.

Y boblogaeth yn 2011 oedd 116,783.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Włocławek. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Mawrth 2022.