Jacob Glatstein
Bardd, nofelydd, awdur straeon byrion, a beirniad llenyddol Pwylaidd-Americanaidd yn yr iaith Iddew-Almaeneg oedd Jacob Glatstein neu Yankev Glatshteyn (20 Awst 1896 – 19 Tachwedd 1971).
Jacob Glatstein | |
---|---|
Ganwyd | 20 Awst 1896 Lublin |
Bu farw | 19 Tachwedd 1971 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | llenor, newyddiadurwr, bardd |
Ganed yn Lublin, Teyrnas Gyngresol Pwyl, a oedd yn wladwriaeth byped i Ymerodraeth Rwsia. Cafodd ei annog gan ei dad i ddarllen llenyddiaeth Iddew-Almaeneg, ac yn ei ieuenctid ymwelodd Jacob â'r dramodydd a storïwr o fri I. L. Peretz yn Warsaw. Yn sgil trais yn erbyn yr Iddewon yng Ngwlad Pwyl, perswadiodd Jacob ei rieni i ganiatáu iddo ymfudo i Unol Daleithiau America yn 1914.[1] Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Efrog Newydd,[2] a bu'n byw yn Efrog Newydd am weddill ei oes.[1]
Cyhoeddodd Glatstein ei waith cyntaf yn Iddew-Almaeneg, y stori fer "Di Geferlekhe Froy", yn y cylchgrawn anarchaidd Fraye Arbeter Shtime.[1] Cyhoeddodd ei farddoniaeth gyntaf yn y gyfrol Poezye (1919).[2] Sefydlwyd y mudiad llenyddol In Zikh neu Di Inzikhistn yn sgil ysgrifennu'r maniffesto Introspektivizm gan Jacob Glatstein, N. B. Minkoff, ac Arn Glanz-Leyeles a chyhoeddi'r flodeugerdd In Zikh, A Zamlung Introspektive Lider (1920).[1] Glatstein oedd golygydd In zikh (1920–39), cylchgrawn i farddoniaeth fodernaidd y mudiad. Cyhoeddodd nifer o gerddi rhydd, naturiolaidd ei hun yn In zikh, sydd yn arbrofi â rhythmau ieithyddol a chwarae ar eiriau yn yr Iddew-Almaeneg, a hynny gyda thechneg draethiadol llif yr ymwybod dan ddylanwad damcaniaethau seicdreiddiad. Ei gyfrol Yankev Glatshteyn (1921) oedd y casgliad cyntaf o farddoniaeth rydd yn yr iaith Iddew-Almaeneg.[2] Yn y 1920au a'r 1930au cyhoeddodd 100 a mwy o straeon byrion, yn arddull Guy de Maupassant ac Abraham Reisen, dan y ffugenw Y. Yungman yn y papur newydd dyddiol Der Morgen Zshurnal.[1]
Yn niwedd y 1930au, trodd Glatstein at farddoniaeth yn galaru difancoll y diwylliant Iddewig traddodiadol yn Nwyrain Ewrop, er enghraifft yn ei gerdd "A gute nakht, velt" (1938). Yn ystod ei yrfa lenyddol, cyhoeddodd Glatstein 12 o gasgliadau o'i gerddi, dwy nofel hunangofiannol (Ven Yash iz geforen, 1938; Ven Yash iz gekumen, 1940), nofel i bobl ifanc (Emil un Karl, 1940), a chyfrol ôl-syllol o'i farddoniaeth Fun mayn gantser mi (1956). Bu hefyd yn golofnydd ac yn feirniad i Der Morgen Zshurnal ac ysgrifennodd y golofn "In tokh genumen" i Yiddisher kemfer, cylchgrawn wythnosol y mudiad Seioniaeth Lafur, o 1945 i 1957. Bu farw yn Ninas Efrog Newydd yn 75 oed.[2]
Llyfryddiaeth
golyguCasgliadau o gerddi
golygu- Poezye (1919).
- Yankev Glatshteyn (1921).
- Fraye ferzn (1926).
- Kredos (1929).
- Yidishtaytshn (1937).
- Gedenklider (1943).
- Shtralendike yidn (1946).
- Dem tatns shotn (1953).
- Di freyd fun yidishn vort (1961).
- A Yid fun Lublin (1966).
Nofelau
golygu- Ven Yash iz geforen (1938).
- Ven Yash iz gekumen (1940).
- Emil un Karl (1940).
Arall
golygu- In tokh genumen, y gyfrol gyntaf (1947).
- In tokh genumen, yr ail gyfrol (1956).
- Fun mayn gantser mi (1956).
- In tokh genumen, y drydedd gyfrol (1960).
- Mit mayne fartogbikher (1963).
- Oyf greyte temes (1967).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) "GLATSTEIN (Gladstone), JACOB" yn Encyclopaedia Judaica. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 25 Mawrth 2020.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Jacob Glatstein. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Mawrth 2020.