Abacavir/lamivudine

Mae Abacavir/lamivudine, a werthir oddi tan yr enw Kivexa, yn feddyginiaeth a ddefnyddir i drin HIV/AIDS. Dos cyfunol sefydlog ydyw, yn cynnwys abacavir a lamivudine. Yn gyffredinol, argymhellir ei ddefnyddio gydag 'antiretrovirals' eraill. Caiff ei ddefnyddio'n fwy aml na pheidio mewn triniaethau ar gyfer plant. Gellir ei gymryd drwy'r geg ar ffurf tabled.[1]

Abacavir/lamivudine
Enghraifft o'r canlynolmeddyginiaeth, cymysgedd, cyffur hanfodol Edit this on Wikidata
Màs515.5905 uned Dalton Edit this on Wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd unol daleithiau america c edit this on wikidata
Yn cynnwyslamifwdin, abacafir Edit this on Wikidata

Sgil effeithiau

golygu

Mae sgil effeithiau cyffredin y cyffur yn cynnwys trafferthion wrth gysgu, cur pen, iselder ysbryd, blinder, chwydu, brech a thwymyn. Gall sgil effeithiau difrifol gynnwys lefelau lactad uchel yn y gwaed, adweithiau alergaidd, a chwyddiant yn yr afu. Ni chaiff ei argymell ar gyfer pobl a genyn penodol o'r enw HLA-B * 5701. Nid yw defnyddioldeb y cyffur yn ystod beichiogrwydd wedi ei astudio'n drylwyr, ond ymddengys yn ddiogel ar hyn o bryd.[2] Mae Lamivudine ac abacavir yn atalyddion trawsgrifiad gwrthdro niwcleosid (NRTI).

Cymeradwywyd Abacavir / lamivudine fel triniaeth feddygol yn yr Unol Daleithiau yn 2004. Mae'r cyffur ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, sef cofnod o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Cost gyfanwerthol fisol y cyffur yn y byd datblygedig yn 2004 oedd 14.19 i 16.74 o ddoleri. O 2015 ymlaen, mae'r gost fisol hwnnw wedi cynyddu i fwy na 200 o ddoleri.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Abacavir and Lamivudine Tablets". Teva Pharmaceuticals USA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Chwefror 2017. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "Abacavir / lamivudine (Epzicom) Use During Pregnancy". www.drugs.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Rhagfyr 2016. Cyrchwyd 4 December 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Hamilton, Richart (2015). Tarascon Pocket Pharmacopoeia 2015 Deluxe Lab-Coat Edition. Jones & Bartlett Learning. t. 59. ISBN 9781284057560.