Abaqa Khan
Teyrn Mongolaidd oedd Abaqa Khan (27 Chwefror 1234 – 4 Ebrill 1282) a deyrnasai yn ail chan yr Ilchanaeth o 1265 hyd at ei farwolaeth. Efe oedd mab hynaf ac olynydd Hulagu Khan, sefydlwr yr Ilchanaeth ac un o wyrion Genghis Khan.
Abaqa Khan | |
---|---|
Ganwyd | 27 Chwefror 1234 Ymerodraeth y Mongol |
Bu farw | 1 Ebrill 1282 Hamadan |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth y Mongol |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | khan |
Tad | Hulagu Khan |
Priod | Maria Palaiologina, Padishah Khatun, Öljei Khatun, Buluqhan Khatun, Bulujin Egachi, Todei Khatun, Nokdan Khatun, Mirtay Khātūn |
Plant | Arghun, Gaykhatu, Oljath, Georgios Bahadur, El Qutlugh Khatun, Malika Khatun, Toghanchuq Khatun, Theodora Palaiologina Arachantloun |
Llinach | Chingissid, Q12839171 |
Ganed Abaqa ym Mongolia yn fab i Hulagu, mab Tolui. Yn sgil buddugoliaethau Hulagu yng Ngorllewin Asia, a sefydlu'r Ilchanaeth ym 1256, penodwyd Abaqa yn llywodraethwr Tyrcestan. Wedi marwolaeth Hulagu ar 8 Chwefror 1265, gwasanaethodd Abaqa yn ilchan am bum mlynedd a hanner cyn iddo gael ei ethol i'r swydd yn ffurfiol ar 26 Tachwedd 1270. Mae'n debyg i Abaqa gadw at ffydd Fwdhaidd ei lwyth, ac yn ôl yr arfer Fongolaidd fe gafodd nifer o wragedd, gan gynnwys ei khatun (cydweddog) Buluqhan a'r despina-khatun Maria Palaiologina, merch anghyfreithlon yr Ymerawdwr Bysantaidd Mihangel VIII Palaiologos. Er na chafodd ei fedyddio, bu Abaqa yn gefnogol iawn i Gristnogaeth, ac ymddengys y groes a ffurfeb Gristnogol ar ddarnau arian o'i deyrnasiad.[1]
Parhaodd y rhyfeloedd rhwng y Mongolwyr a'r Mwslimiaid yn ystod teyrnasiad Abaqa, a gorchfygwyd Antioch gan luoedd y Mamlwc ym 1268. Er gwaethaf ei ffafriaeth i Gristnogion yn ei diriogaeth, methiant a fu ei ymdrechion i ganfod cynghreiriaid Ewropeaidd ar gyfer croesgad yn erbyn y Mamlwciaid. Arwyddodd cytundebau heddwch gyda'r Llu Euraid ym 1268 a Gweriniaeth Fenis ym 1271.[1]
Ymhlith ei blant oedd dau fab a fyddai'n esgyn i'r chanaeth, Arghun (teyrnasai 1284–91) a Geikhatu (t. 1291–95). Bu farw Abaqa yn 48 oed, a fe'i olynwyd yn chan gan ei frawd iau, Ahmad Tegüder (t. 1282–84).