Mongolia
Gwlad dirgaeedig i'r gogledd o Weriniaeth Pobl Tsieina ac i'r de o Rwsia yw Mongolia. Roedd hi'n rhan o Tsieina hyd 1921 pan enillodd ei hannibyniaeth. Prifddinas y wlad yw Ulan Bator. Mongolia yw ail wlad dirgaeedig fwyaf y byd, ar ôl Casachstan.
Mongolia Монгол Улс (Mongoleg) | |
Arwyddair | Crwydrwch a Phrofwch Mongolia |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad |
Enwyd ar ôl | Mongolwyr |
Prifddinas | Ulan Bator |
Poblogaeth | 3,409,939 |
Sefydlwyd | 29 Rhagfyr 1911 (Annibyniaeth oddi wrth y Brenhinllin Qing) 26 Tachwedd 1924 (Sefydlu Gweriniaeth y Bobl (1924 i 1992)) |
Anthem | Anthem Genedlaethol Mongolia |
Pennaeth llywodraeth | Oyunerdene Luvsannamsrai |
Cylchfa amser | UTC+08:00, Asia/Hovd, Asia/Ulaanbaatar, Asia/Choibalsan |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Mongoleg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dwyrain Asia |
Gwlad | Mongolia |
Arwynebedd | 1,564,116 km² |
Uwch y môr | 1,528 metr |
Yn ffinio gyda | Gweriniaeth Pobl Tsieina, Rwsia |
Cyfesurynnau | 46°N 105°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Mongolia |
Corff deddfwriaethol | Khural Mawr y Wlad |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Mongolia |
Pennaeth y wladwriaeth | Khurelsukh Ukhnaa |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Mongolia |
Pennaeth y Llywodraeth | Oyunerdene Luvsannamsrai |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $15,286 million, $16,811 million |
Arian | tögrög Mongolia |
Canran y diwaith | 5 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.93 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.739 |
Gwlad dirgaeedig yn Nwyrain Asia yw Mongolia, sy'n ffinio â Rwsia i'r gogledd a Tsieina i'r de. Mae ganddi arwynebedd o 1,564,116 km sg (603,909 milltir sg). Amcangyfrifwyd gan Fiwro Cyfrifiad yr UD[1] fod cyfanswm poblogaeth Mongolia yn 2015 yn 3,000,251 o bobl, safle tua 121 yn y byd, a thua 300,000 o bobl yn llai na Chymru. Mae hyn yn ei gwneud ywladwriaeth sofran fwyaf gwasgaredig yn y byd.
Mongolia yw'r wlad dirgaeedig fwyaf yn y byd nad yw'n ffinio â môr caeedig, ac mae llawer o'i hardal wedi'i gorchuddio â phaith glaswelltog, gyda mynyddoedd i'r gogledd a'r gorllewin ac Anialwch Gobi i'r de. Mae Ulaanbaatar, y brifddinas a'r ddinas fwyaf, yn gartref i tua hanner poblogaeth y wlad.
Mae tiriogaeth Mongolia heddiw wedi'i rheoli gan amrywiol ymerodraethau crwydrol (nomadig), gan gynnwys y Xiongnu, y Xianbei, y Rouran, y Khaganate Tyrcaidd Cyntaf, yr Ail Turkic Khaganate, yr Uyghur Khaganate ac eraill. Yn 1206, sefydlodd Genghis Khan Ymerodraeth y Mongol, a ddaeth yn ymerodraeth tir gyffiniol fwyaf mewn hanes. Gorchfygodd ei ŵyr Kublai Khan Tsieina yn iawn a sefydlu Brenhinllyn Yuan. Ar ôl cwymp yr Yuan, enciliodd y Mongoliaid i Fongolia ac ailddechreuodd eu patrwm o wrthdaro carfannol, ac eithrio yn ystod oes Dayan Khan a Tumen Zasagt Khan.
Yn yr 16g, ymledodd Bwdhaeth Tibet i Fongolia, ac aeth ymhellach gan Frenhinllin Qing a sefydlwyd gan Manchu, a amsugnodd y wlad yn yr 17g. Erbyn dechrau'r 20g, roedd bron i draean o'r boblogaeth oedolion gwrywaidd yn fynachod Bwdhaidd.[2] Ar ôl cwymp llinach Qing ym 1911, datganodd Mongolia ei hannibyniaeth, a gwireddwyd hynny'n llawyr ym 1921. Yn fuan wedi hynny, daeth y wlad yn wladwriaeth lloeren i'r Undeb Sofietaidd. Ym 1924, sefydlwyd Gweriniaeth Pobl Mongolia fel gwladwriaeth sosialaidd.[3] Ar ôl chwyldroadau gwrth-gomiwnyddol 1989, cynhaliodd Mongolia ei chwyldro democrataidd heddychlon ei hun yn gynnar yn 1990. Arweiniodd hyn at system amlbleidiol, cyfansoddiad newydd ym 1992, a thrawsnewidiodd i economi marchnad.
Mae tua 30% o'r boblogaeth yn grwydrol neu'n lled-nomadig; mae'r diwylliant ceffylau'n parhau i fod yn rhan bwysig iawn o bob elfen o fywyd. Bwdhaeth yw'r grefydd fwyafrifol (51.7%), a di-grefydd yw'r ail grŵp mwyaf (40.6%). Islam yw'r trydydd hunaniaeth grefyddol fwyaf (3.2%), wedi'i grynhoi ymhlith y Kazakhiaid ethnig. Mongoliaid ethnig yw rhan fwyaf y dinasyddion, gyda thua 5% o'r boblogaeth yn Kazakhiaid, Tuvaniaid, a lleiafrifoedd ethnig eraill, sydd wedi'u crynhoi'n arbennig yn ngorllewin y wlad.
Mae Mongolia'n aelod o'r Cenhedloedd Unedig, Dialog Cydweithredol Asia, y G77, Banc Buddsoddi Seilwaith Asiaidd, y Mudiad Heb Aliniad ac mae'n bartner byd-eang NATO. Ymunodd Mongolia â Sefydliad Masnach y Byd ym 1997 ac mae'n ceisio ehangu ei gwaith oddi mewn i grwpiau economaidd a masnach eraill.
Geirdarddiad
golyguMae'r enw 'Mongolia' yn golygu "Gwlad y Mongols" yn Lladin. Mae'r gair Mongolaidd "Mongol" ( монгол ) o darddiad ansicr. Cynigiodd Sükhbataar (1992) a de la Vaissière (2021) ei fod yn deillio o Mugulü, sylfaenydd y Rouran Khaganate yn y 4g,[4] a sgwennwyd yn gyntaf fel y 'Mungu',[5] (Tsieinëeg:蒙兀, Tsieinëeg Modern: Měngwù, Tsieinëeg Canol: Muwngu[6]). Mae'n bosib fod y Mungu hwn yn dod o gangen o'r Shiwei mewn rhestr llinach Tang o'r 8g o lwythau gogleddol, yn ôl pob tebyg yn gysylltiedig â'r Liao -era Mungku[5] (Tsieinëeg: 蒙古, Měnggǔ neu MuwngkuX ).
Ers mabwysiadu Cyfansoddiad newydd Mongolia ar 13 Chwefror 1992, enw swyddogol y wladwriaeth yw "Mongolia" (Mongol Uls).
Demograffeg
golyguAmcangyfrifwyd cyfanswm poblogaeth Mongolia yn Ionawr 2015 gan Fiwro Cyfrifiad yr UD[1] yn 3,000,251 o bobl, safle tua 121 yn y byd, a thua 300,000 yn llai na Chymru. Ond mae Swyddfa Materion Gwladol Dwyrain Asia a'r Môr Tawel yr Unol Daleithiau yn defnyddio amcangyfrifon y Cenhedloedd Unedig (CU)[7] yn lle amcangyfrifon Biwro Cyfrifiad UDA. Mae tua 59% o gyfanswm y boblogaeth o dan 30 oed, ac mae 27% ohonynt o dan 14 oed. Mae'r boblogaeth felly'n gymharol ifanc ac mae hyn wedi rhoi straen ar economi Mongolia.
Ieithoedd
golyguIaith swyddogol a chenedlaethol Mongolia yw Mongoleg, sy'n aelod o'r teulu o Ieithoedd Mongolaidd; y dafodiaith safonol yw Khalkha Mongoleg. Mae'n cydfodoli â gwahanol ieithoedd eraill y teulu, sy'n ddealladwy i raddau helaeth, fel Oirat, Buryat, a Khamniganeg. Mae sawl tafodiaith wedi dod yn debycach i'r dafodiaith ganolog Khalkha yn ystod y blynyddoedd diwethaf, oherwydd y cyfryngau traddodiadol a'r cyfryngau cymdeithasol.[8]
Lleolir mwyafrif siaradwyr y tafodieithoedd hyn yn rhan orllewinol y wlad, yn Bayan-Ölgii, Uvs, a Khovd. Y Casacheg, sy'n iaith Dyrcaidd, yw iaith y mwyafrifol yn Bayan-Ölgii, tra bod Tuvan yn iaith Dyrciaidd arall a siaredir yn Khövsgöl. Iaith Arwyddion Mongoleg yw prif iaith y gymuned fyddar.
Ers 1990, mae Saesneg wedi disodli'r Rwsieg yn gyflym fel yr iaith dramor fwyaf poblogaidd ym Mongolia.[9][10][11] Yn y cyfnod comiwnyddol, roedd Rwsieg yn iaith hanfodol ar gyfer symudedd a chyfathrebu proffesiynol, gyda nifer fawr o fyfyrwyr yn astudio yn yr Undeb Sofietaidd yn ogystal â nifer fawr o weithwyr proffesiynol Sofietaidd a milwyr wedi'u lleoli o fewn Mongolia.[8] Ers hynny, fodd bynnag, mae system addysg Mongolia wedi symud i ffwrdd o'r Undeb Sofietaidd i'r Gorllewin. Daeth y Saesneg yn brif iaith dramor, oherwydd y cyfryngau rhyddfrydol, asiantaethau cymorth rhyngwladol, twf addysg breifat a thiwtora, yn ogystal â pholisi llywodraeth y wlad. Ym mlwyddyn academaidd 2014-2015, astudiodd 59% o fyfyrwyr y Saesneg mewn ysgolion uwchradd cyhoeddus.[8] Yn 2023, cyhoeddwyd mai'r Saesneg yw'r "iaith dramor gyntaf", ac y dylid ei haddysgu o'r drydedd flwyddyn ysgol.[12]
Yn dilyn wrth ei sodlau, yn y flwyddyn academaidd 2014-2015, roedd (yn ôl poblogrwydd), Saesneg, Tsieinëeg, Rwsieg, Japaneaidd a Chorëeg. Mae degau o filoedd o Fongoliaid yn gweithio yn Ne Korea,[13] gan ffurfio'r grŵp mwyaf o Fongoliaid tramor.
Crefydd
golyguCrefydd | Poblogaeth | Rhan |
---|---|---|
Anghrefyddol | 735,283 | 38.6% |
Crefyddol | 1,170,283 | 61.4% |
Bwdhaeth | 1,009,357 | 53.0% |
Islam | 57,702 | 3.0% |
Shamaniaeth | 55,174 | 2.9% |
Cristionogaeth | 41,117 | 2.2% |
Crefyddau eraill | 6,933 | 0.4% |
Cyfanswm | 1,905,566 | 100.0% |
Yn ôl Cyfrifiad Cenedlaethol 2010, ymhlith Mongoliaid 15 oed a hŷn, roedd 53% yn Fwdhyddion, tra bod 39% yn ddigrefydd.
Mae siamaniaeth Mongolia wedi cael ei harfer yn eang trwy gydol hanes yr hyn a enwir bellach yn 'Mongolia', gyda chredoau tebyg yn gyffredin ymhlith nomadiaid canolbarth Asia. Yn raddol fe wnaethant ildio i Fwdhaeth Tibet, ond mae siamaniaeth wedi gadael ei marc ar ddiwylliant crefyddol y Mongol, ac mae'n parhau i gael ei ymarfer. Mae Kazakhiaid gorllewin Mongolia, rhai Mongoliaid, a phobloedd Tyrcaidd eraill yn y wlad yn draddodiadol yn cydio'n dynn mewn Islamaeth.
Llywodraeth a gwleidyddiaeth
golyguMae Mongolia yn weriniaeth ddemocrataidd gynrychioliadol lled-arlywyddol gydag Arlywydd a etholir yn uniongyrchol.[14][15] Mae'r bobl hefyd yn ethol y dirprwyon yn y cynulliad cenedlaethol, sef Khural Fawr y Wladwriaeth. Yr arlywydd sy'n penodi'r prif weinidog, ac yn enwebu'r cabinet ar gynnig y prif weinidog. Mae cyfansoddiad Mongolia yn gwarantu rhyddid o sawl math, gan gynnwys rhyddid mynegant llawn a chrefydd. Diwygiodd Mongolia ei chyfansoddiad yn 2019 gan drosglwyddo rhai pwerau o'r arlywydd i'r prif weinidog.[16] Ar 31 Mai 2023, cymeradwyodd senedd Mongolia welliant cyfansoddiadol a gynyddodd nifer y seddi o 76 i 126 ac a newidiodd y system etholiadol gan ailgyflwyno pleidleisio plaid gyfrannol.[17]
Mae gan Mongolia nifer o bleidiau gwleidyddol; y mwyaf yw Plaid y Bobl Mongolaidd a'r Blaid Ddemocrataidd. Mae'r sefydliad anllywodraethol Freedom House yn ystyried bod Mongolia yn rhydd.[18]
Mae Arlywydd Mongolia yn gallu rhoi feto ar gyfreithiau'r senedd, penodi barnwyr ac ynad y llysoedd a phenodi llysgenhadon. Gall y senedd ddiystyru’r feto hwn drwy bleidlais fwyafrifol o ddwy ran o dair. Mae cyfansoddiad Mongolia'n darparu tri peth angenrheidiol ar gyfer swydd fel Arlywydd: rhaid i'r ymgeisydd fod o Fongolia, bod o leiaf 45 mlwydd oed, ac wedi byw ym Mongolia am bum mlynedd cyn cymryd y swydd. Rhaid i'r Arlywydd hefyd atal aelodaeth o'i blaid.[19]
Mae Mongolia'n defnyddio deddfwrfa unsiambr, sef Khural Fawr y Wladwriaeth, gyda 76 o seddi, sy'n cael ei chadeirio gan Lefarydd y Tŷ. Caiff ei haelodau eu hethol yn uniongyrchol, bob pedair blynedd, drwy bleidlais boblogaidd. Yn unol â gwelliant cyfansoddiadol 2023 cynyddodd y senedd nifer y seddi o 76 i 126.[20]
Llysgenadaethau
golyguMae Mongolia'n cynnal llawer o genadaethau diplomyddol mewn gwledydd eraill ac mae ganddi lysgenadaethau ledled y byd.[21] Mewn cymhariaeth, gan nad yw Cymru'n wlad annibynnol sofran, nid yw'n cynnal yr un cenhadaeth ddiplomyddol nac unrhyw lysgenhadaeth.
Milwrol
golyguCefnogodd Mongolia ymosodiad Irac yn 2003, ac mae wedi anfon sawl mintai olynol o rhwng 103 a 180 o filwyr i Irac . Anfonwyd tua 130 o filwyr i Affganistan hefyd. Mae 200 o filwyr Mongolia'n gwasanaethu yn Sierra Leone ar fandad y Cenhedloedd Unedig i amddiffyn llys arbennig y Cenhedloedd Unedig a sefydlwyd yno, ac yng Ngorffennaf 2009, penderfynodd Mongolia anfon bataliwn i Tsiad i gefnogi MINURCAT.[22]
Rhwng 2005 a 2006, anfonwyd tua 40 o filwyr at filwyr Gwlad Belg a Lwcsembwrg yn Cosofo. Ar 21 Tachwedd 2005, George W. Bush oedd arlywydd cyntaf erioed yr Unol Daleithiau i ymweld â Mongolia.[23] Yn 2004, dan gadeiryddiaeth Bwlgaria, gwahoddodd Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop (OSCE) Mongolia fel ei bartner Asiaidd diweddaraf.
Addysg
golyguYn ystod cyfnod sosialaidd y wladwriaeth, roedd addysg yn un o'r meysydd lle cafwyd cynnydd arwyddocaol iawn ym Mongolia. Cyn Gweriniaeth y Bobl, roedd cyfraddau llythrennedd yn is nag un y cant ond erbyn 1952, cafodd anllythrennedd ei ddileu bron yn gyfangwbwl,[24] yn rhannol trwy ddefnyddio ysgolion preswyl tymhorol ar gyfer plant o deuluoedd crwydrol. Torrwyd cyllid i’r ysgolion preswyl hyn yn y 1990au, a chafwyd canran uwch o anllythrennedd.
Bu addysg gynradd ac uwchradd yn para deng mlynedd yn flaenorol, ond fe'i hehangwyd i undeg-un mlynedd. Ers 2019-2020 sefydlwyd system 12 mlynedd.[25]
Ers 2006 dysgir Saesneg ym mhob ysgol uwchradd ar hyd a lled Mongolia, gan gychwyn ym mlwyddyn 4.[26]
Mae prifysgolion cenedlaethol Mongolia i gyd yn ganghennau o Brifysgol Genedlaethol Mongolia a Phrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Mongolia. Mae bron i dri o bob pump o bobl ifanc Mongolia bellach yn cofrestru yn y brifysgol. Bu cynnydd chwe gwaith yn nifer y myfyrwyr rhwng 1993 a 2010.[27] Roedd Mongolia yn safle 67 yn y Mynegai Arloesedd Byd-eang yn 2024, i lawr o 53 yn 2019.[28][29][30]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "U.S. Census Bureau International Data Base". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-11. Cyrchwyd 2013-06-28.
- ↑ "Mongolia – Religion". Michigan State University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 15, 2015. Cyrchwyd January 24, 2015.
- ↑ Sik, Ko Swan (1990). Nationality and International Law in Asian Perspective. Martinus Nijhoff Publishers. t. 39. ISBN 9780792308768. Cyrchwyd 2013-06-28.
- ↑ Сүхбаатар, Г. (1992). "Монгол Нирун улс" [Mongol Nirun (Rouran) state]. Монголын эртний түүх судлал, III боть [Historiography of Ancient Mongolia, Volume III] (yn Mongoleg). 3. tt. 330–550.
- ↑ 5.0 5.1 Svantesson, Jan-Olof; Tsendina, Anna; Karlsson, Anastasia; Franzén, Vivian (2005). The Phonology of Mongolian. Phonologies of the World's Languages. Oxford: Oxford University Press. tt. 103–105. ISBN 978-0199554270.
- ↑ Pulleyblank, Edwin George (1991). Lexicon of Reconstructed Pronunciation in Early Middle Chinese, Late Middle Chinese, and Early Mandarin. UBC Press. ISBN 0-7748-0366-5.
- ↑ "U.S. Department of State. Bureau of East Asian and Pacific Affairs. Background Note:Mongolia". State.gov. February 28, 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Chwefror 2020. Cyrchwyd 2010-05-02.
- ↑ 8.0 8.1 8.2 Marzluf, Philip; Saruul-Erdene, Myagmar (2019). "Mongolia: Language education policy". In Kirkpatrick, Andy; Liddicoat, Anthony J. (gol.). The Routledge international handbook of language education policy in Asia. Routledge international handbooks. London; New York: Routledge, Taylor & Francis Group. ISBN 978-1-317-35449-9.
- ↑ Shinjee, Bolormaa; Dovchin, Sender (2023-07-28). "SOCIOLINGUISTICS IN MONGOLIA". In Ball, Martin J.; Mesthrie, Rajend; Meluzzi, Chiara (gol.). The Routledge Handbook of Sociolinguistics Around the World (arg. 2). London: Routledge. doi:10.4324/9781003198345. ISBN 978-1-003-19834-5.
- ↑ Marzluf, Philip; Saruul-Erdene, Myagmar (2019). "Mongolia: Language education policy". In Kirkpatrick, Andy; Liddicoat, Anthony J. (gol.). The Routledge international handbook of language education policy in Asia. Routledge international handbooks. London; New York: Routledge, Taylor & Francis Group. ISBN 978-1-317-35449-9.Marzluf, Philip; Saruul-Erdene, Myagmar (2019).
- ↑ Цыбенова, Ч. С.; Жалсанова, В. Г. (2022-08-31). "Русский язык в повседневном дискурсе монголов (данные экспертного опроса)" (yn ru). Научный диалог 11 (6): 158–181. doi:10.24224/2227-1295-2022-11-6-158-181. ISSN 2227-1295. https://www.nauka-dialog.ru/jour/article/view/3964.
- ↑ Б.Анхтуяа (2023-08-02). "Mongolia makes English the first foreign language in secondary education - News.MN". News.MN - The source of news (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-05-19.
- ↑ Han, Jae-hyuck (May 5, 2006). "Today in Mongolia: Everyone can speak a few words of Korean". Office of the President, Republic of Korea. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Medi 30, 2007. Cyrchwyd 2007-08-17.
- ↑ Shugart, Matthew Søberg (Medi 2005). "Semi-Presidential Systems: Dual Executive and Mixed Authority Patterns". Graduate School of International Relations and Pacific Studies. http://dss.ucsd.edu/~mshugart/semi-presidentialism.pdf. Adalwyd 21 Chwefror 2016.
- ↑ Shugart, Matthew Søberg (December 2005). "Semi-Presidential Systems: Dual Executive And Mixed Authority Patterns". French Politics 3 (3): 323–351. doi:10.1057/palgrave.fp.8200087. http://www.palgrave-journals.com/fp/journal/v3/n3/pdf/8200087a.pdf. Adalwyd 21 Chwefror 2016. "Even if the president has no discretion in the forming of cabinets or the right to dissolve parliament, his or her constitutional authority can be regarded as 'quite considerable' in Duverger's sense if cabinet legislation approved in parliament can be blocked by the people's elected agent. Such powers are especially relevant if an extraordinary majority is required to override a veto, as in Mongolia, Poland, and Senegal."
- ↑ Adiya, Amar (2022-06-30). "Mongolia Looks Into New Parliamentary System". Mongolia Weekly (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mawrth 2023. Cyrchwyd 2023-03-25.
- ↑ "Concerns Over Foreign Meddling Rise in Mongolia's Elections". Mongolia Weekly (yn Saesneg). 2023-07-25. Cyrchwyd 2023-07-25.
- ↑ "Freedom in the World, 2024, Mongolia". Freedom House. Cyrchwyd 27 Mai 2024.
- ↑ "МОНГОЛ УЛСЫН ЕРӨНХИЙЛӨГЧИЙН 2017 ОНЫ СОНГУУЛИЙН 2 ДАХЬ САНАЛ ХУРААЛТЫН ДҮН" (yn Mongolian). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Adiya, Amar (2023-07-25). "How is Mongolia Addressing Concerns Over Foreign Meddling in Elections?". Mongolia Weekly (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Gorffennaf 2023. Cyrchwyd 2024-05-17.
- ↑ "Mongolia Embassies & Consulates". EmbassyPages.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Medi 2018. Cyrchwyd 18 Chwefror 2018.
- ↑ "Ban Ki-Moon on press conference in Ulaanbaatar, Gorffennaf 27th, 2009". Un.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 3, 2011. Cyrchwyd 2010-05-02.
- ↑ "President George W. Bush Visits Mongolia". US embassy in Mongolia, 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 29, 2008. Cyrchwyd 2013-06-30.
- ↑ "Mongolian People's Republic". TheFreeDictionary.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 12, 2017. Cyrchwyd 2016-11-28.
- ↑ "Зургаан настнууд зутрах шинжтэй" (yn Mongoleg). Olloo.mn. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 25, 2013. Cyrchwyd 2013-06-28.
- ↑ Dovchin, Sender (2021-10-04). "The Rise of English in Mongolia". Mongolia Weekly (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mawrth 2023. Cyrchwyd 2023-03-25.
- ↑ Jakob Engel and Annalisa Prizzon, with Gerelmaa Amgaabazar, Gorffennaf 2014, From decline to recovery: Post-primary education in Mongolia, "Development Progress" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar October 16, 2014. Cyrchwyd 2014-10-10.
- ↑ World Intellectual Property Organization (2024). "Global Innovation Index 2024. Unlocking the Promise of Social Entrepreneurship" (PDF). www.wipo.int. Geneva. t. 18. doi:10.34667/tind.50062. ISBN 978-92-805-3681-2. Cyrchwyd 2024-10-01.
- ↑ WIPO (7 January 2024). Global Innovation Index 2023, 15th Edition (yn Saesneg). World Intellectual Property Organization. doi:10.34667/tind.46596. ISBN 978-92-805-3432-0. Cyrchwyd 2023-10-29.
- ↑ "Global Innovation Index 2019". www.wipo.int (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Medi 2021. Cyrchwyd 2021-09-02.