Abdelbaset al-Megrahi
Dinesydd Libiaidd a gafwyd yn euog o lofruddio 270 o bobl yn nhrychineb Lockerbie oedd Abdelbaset Ali Mohmed al-Megrahi (1 Ebrill 1952 – 20 Mai 2012).[1]
Abdelbaset al-Megrahi | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ebrill 1952 Tripoli |
Bu farw | 20 Mai 2012 Tripoli |
Dinasyddiaeth | Libia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | person milwrol |
Fe'i ganwyd yn Tripoli. Astudiodd yn yr Unol Daleithiau a Chaerdydd yn y 1970au. Yn y 1980au daeth yn bennaeth diogelwch y cwmni hedfan Libyan Arab Airlines (LAA).
Roedd al-Megrahi yn un o'r ddau Libiad a gyhuddwyd o fomio Ehediad Pan Am 103 ym 1988, gan ladd yr holl griw a'r teithwyr ac 11 o bobl ar lawr yn nhref Lockerbie, yr Alban. Yn ôl yr FBI, roedd al-Megrahi yn gweithio i Mukhabarat el-Jamahiriya, yr asiantaeth cudd-wybodaeth Libiaidd. Yn 2001, cafwyd al-Megrahi yn euog o 270 cyhuddiad o lofruddiaeth gan dri barnwr Albanaidd mewn llys yn yr Iseldiroedd. Ni chafwyd Lamin Khalifah Fhimah yn euog o'r un cyhuddiad. Cafodd al-Megrahi ei ddedfrydu i garchar am oes, ond cafodd ei ryddhau o'r carchar yn 2009 am resymau tosturiol, a bu farw o ganser y prostad yn 2012.[2][3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Abdelbaset Ali Mohmed al-Megrahi. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Chwefror 2014.
- ↑ (Saesneg) Obituary: Abdelbaset al-Megrahi. BBC (20 Mai 2012). Adalwyd ar 24 Chwefror 2014.
- ↑ (Saesneg) Obituary: Abdelbaset Ali al-Megrahi. The Daily Telegraph (20 Mai 2012). Adalwyd ar 24 Chwefror 2014.
Rhybudd: Mae'r allwedd trefnu diofyn "Al-Megrahi, Abdelbaset" yn gwrthwneud yr allwedd trefnu diofyn blaenorol "al-Megrahi, Abdelbaset".