Trychineb Lockerbie
Ymosodiad terfysgol ar Ehediad Pan Am 103 ar 21 Rhagfyr 1988 oedd Trychineb Lockerbie. Bu farw 270 o bobl i gyd. Ffrwydrodd bom ar yr awyren wrth iddi deithio o Frankfurt am Main i Detroit drwy Lundain a Dinas Efrog Newydd. Disgynodd darnau'r awyren ar dref Lockerbie, yn ne'r Alban, gan ladd yr holl griw a'r teithwyr ac 11 o bobl ar y ddaear.
Rhan o drwyn a bwrdd hedfan yr awyren yn Lockerbie. | |
Enghraifft o'r canlynol | damwain awyrennu, ymosodiad terfysgol, airliner bombing |
---|---|
Dyddiad | 21 Rhagfyr 1988 |
Lladdwyd | 243, 16, 11 |
Lleoliad | Lockerbie |
Gweithredwr | Pan Am |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhoddwyd dau Libiad ar brawf gan dri barnwr Albanaidd yn yr Iseldiroedd. Yn 2001 cafwyd Abdelbaset al-Megrahi yn euog o 270 cyhuddiad o lofruddiaeth a chafodd ei dedfrydu i garchar am oes. Ni chafwyd Lamin Khalifah Fhimah yn euog o'r un cyhuddiad. Cafodd al-Megrahi ei ryddhau o'r carchar yn 2009 am resymau tosturiol, a bu farw o ganser y prostad yn 2012.