Aberbechan
Plasdy ym Maldwyn, Powys yw Aberbechan a fu am ganrifoedd yn gartref i deulu a noddai feirdd gogledd Powys. Saif ym mhlwyf Llanllwchaearn.
Math | plasty, adeilad â ffrâm goed |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.54°N 3.27°W |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Noddi beirdd
golyguRoedd y teulu yn ddisgynyddion i Feilir Gryg, cyndad teuluoedd Gregynog a'r Faenor, Aberriw. Ceir cerddi gan feirdd a noddid gan Morys ab Owain (m. 1568) a'i dad yntau hefyd.
Mae'r bardd Ieuan Tew yn cymharu llys Aberbechan â goleuni llusern (lawnter) am ei fod mor uchel a disglair: 'Lawnter goleuder gwledydd'.[1]
Un arall o'r beirdd a gysylltir ag Aberbechan yw Siôn Ceri (Siôn ab y Bedo ap Deio Fychan, bl. diwedd y 15g - 1540au), o gwmwd Ceri. Erys ar glawr cywydd i'r Grog yn Aberhonddu ganddo ar gais Rhys ap Morys, mab Morys ab Owain, o Aberbechan.[2]
Roedd Rhys yn noddi beirdd eraill hefyd, yn cynnwys Huw Arwystli a Syr Ieuan o Garno. Parhaodd y traddodiad nawdd ar yr aelwyd i hanner cyntaf yr 16g, gan Thomas ap Rhys a'i ferch Gwen (m. 1639), gwraig Syr Rhisiart Prys o Gogerddan.