Aberwysg
Ardal i'r de o ddinas Casnewydd yw Aberwysg (Saesneg: Uskmouth). Yma y mae Afon Wysg yn cyrraedd Môr Hafren.
Saif i'r gorllewin o bentref Trefonnen, ac mae'n cynnwys rhan o warchodfa natur Gwlyptiroedd Casnewydd.
Yn dilyn stormydd yn 1986, cafwyd hyd i olion traed dynol yn y clai ar y traeth. Dyddiwyd yn rhain y tua 4200 CC, yr olion traed dynol hynaf ym Mhrydain.