Gwlyptiroedd Casnewydd
Gwarchodfa Natur Genedlaethol yn ne-ddwyrain Cymru yw Gwlyptiroedd Casnewydd (Saesneg: Newport Wetlands). Saif ar lan aber Afon Hafren, i'r de-ddwyrain o ganol dinas Casnewydd, rhwng Aberwysg, Trefonnen ac Allteuryn. Fe'i rheolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth a'r RSPB a Chyngor Dinas Casnewydd. Mae wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 26 Mawrth 2010 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 374.17 hectar.
Math | parc, gwlyptir, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 374.17 ha |
Cyfesurynnau | 51.546°N 2.961°W, 51.541725°N 2.945263°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Disgrifiad
golyguSefydlwyd y warchodfa, sy'n 1,079 acer (437 hectar) o arwynebedd, yn 2000, gyda'r bwriad o ddarparu cynefin i wrthweithio colli Bae Caerdydd, oedd yn cael ei droi'n llyn dŵr croyw gydag adeiladu Morglawdd Bae Caerdydd. Agorodd yr RSPB Ganolfan Addysg Amgylcheddol ac Ymwelwyr ym mis Mawrth 2008, ac fe ddynodwyd Gwlyptiroedd Casnewydd yn Warchodfa Natur Genedlaethol ar 16 Ebrill 2008.
Sefydlwyd y warchodfa ar gyfer adar yn bennaf. Erbyn hyn, mae nifer o rywogaethau sy'n eithaf prin yng Nghymru wedi eu cofnodi yno, megis y Cambig, Telor Cetti, y Rhegen Ddŵr a’r Titw Barfog. Ymysg rhywogaethau sy'n magu yno mae'r Gornchwiglen, Pioden y Môr, Cwtiad torchog, Cwtiad torchog bach a'r Pibydd coesgoch.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru'); Archifwyd 2014-01-01 yn y Peiriant Wayback adalwyd 25 Rhagfyr 2013