Gweler hefyd: Afon Wysg (Dyfnaint).

Afon sy'n llifo o lethrau gogleddol y Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin i foryd yr Hafern ger Casnewydd yw Afon Wysg.

Afon Wysg
RiverUskAbergavenny.jpg
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5833°N 2.9833°W, 51.9508°N 3.7356°W Edit this on Wikidata
AberMôr Hafren Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Llwyd, Afon Tarell, Afon Clydach, Sir Fynwy, Afon Gafenni Edit this on Wikidata
Hyd112 cilometr Edit this on Wikidata

Mae'r afon yn tarddu ychydig i'r gogledd o gopaon Bannau Sir Gâr ac yna'n rhedeg i lawr yn syrth i gronfa dŵr Llyn Wysg. Mae'n rhedeg i lawr i gyfeiriad y dwyrain o'r llyn trwy bentref Pontsenni i Aberhonddu. Rhwng y llyn ac Aberhonddu mae sawl afon llai yn ymuno â hi, fel Afon Crai, Afon Senni ac Afon Tarell o'r de ac Afon Brân o'r gogledd.

O Aberhonddu try'r afon i'r de-ddwyrain i lifo trwy Llangynidr a phasio Crughywel a Glangrwyne, lle mae ffrwd Afon Grwyne Fawr yn ymuno â hi, i'r Fenni. O'r dref honno mae cwrs Afon Wysg yn troi i'r de ac mae'r afon yn rhedeg trwy Ddyffryn Wysg yn iseldiroedd Gwent, gan basio trwy Brynbuga, Caerllion a Chasnewydd i aberu yn moryd yr afon Hafren.

Aber Afon Wysg yw'r dyfnaf ym Mhrydain ac mae ganddi'r gwahaniaeth mwyaf rhwng ei llanw a'i thrai nag unman yn y byd ac eithrio Bae Fundy (Bay of Fundy) yng Nghanada.

Y fferi unigryw (Pont Gludo Casnewydd) dros Afon Wysg yng Nghasnewydd

Safleoedd cadwraethGolygu

Ceir ambell Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sy'n gysylltiedig a'r afon e.e. Afon Wysg (isafonydd).