Abhijñānaśākuntalam

Drama yn yr iaith Sansgrit gan y dramodydd Indiaidd Kalidasa (fl. tua 4g - 6g?) yw Abhijñānaśākuntalam ("Adnabod Shakuntala") neu Sakuntala. Mae'n seiliedig ar hanes y ferch Shakuntalā (Sakuntala) fel y'i ceir yn y Mahabharata.

Golygfa o'r Abhijñānaśākuntalam; Shakuntala yn troi'n ôl i edrych ar Dushyanta. Darlun gan Ravi Raj Varma.

Mae'n adrodd stori'r brenin Dushyanta, sy'n cyfarfod Shakuntalā, ferch y doethwr Visvamitra a'r nymff Menaka, tra allan yn hela ac yn ei phriodi. Mae gŵr doeth yn rhoi melltith ar Shakuntala, sef y bydd Dushyanta yn ei hanghofio'n llwyr nes iddo weld y fodrwy a adawodd ef gyda hi. Cyll Shakuntala y fodrwy, ac nid yw Dushyanta yn ei hadnabod nes i bysgotwr gael hyd i'r fodrwy.

Mae hanes y fodrwy yn fotiff llên gwerin ryngwladol y ceir amrywiadau arni yn sawl diwylliant ledled y byd, yn cynnwys llên gwerin Cymru.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.