Kālidāsa
(Ailgyfeiriad o Kalidasa)
Bardd a dramodydd yn yr iaith Sansgrit oedd Kālidāsa (Devanāgarī: कालिदास, "gwas Kali"). Ystyrir mai ef yw ffigwr pwysicaf mewn llenyddiaeth Sansgrir glasurol.
Kālidāsa | |
---|---|
Ganwyd | Unknown Unknown |
Bu farw | Unknown |
Galwedigaeth | bardd, awdur geiriau, dramodydd, llenor, sgriptiwr ffilm |
Blodeuodd | c. 4 g |
Adnabyddus am | Raghuvaṃśa, Abhijñānaśākuntalam, Mālavikāgnimitram, Vikramōrvaśīyam, Kumārasaṃbhava, Meghadūta, Ṛtusaṃhāra |
Arddull | arwrgerdd, telyneg, drama ffuglen, Sanskrit drama |
Nid oes sicrwydd pryd nag ymhle roedd yn byw; credir ei fod yn byw yng ngyfnod Gupta, efallai rywbryd yn y 4edd neu'r 5g OC. Ceir cyfeiriad ato gan yr Aihole Prashasti yn 634, felly ni all fod yn ddiweddarach na hyn. Cred rhai ysgolheigion ar sail cyfeiriadau yn ei weithiau ei fod yn byw un ai ger yr Himalaya neu ger Ujjain.
Gweithiau llenyddol
golyguDramâu
golygu- Mālavikāgnimitra ("Mālavikā ac Agnimitra"), yn adrodd stori'r brenin Agnimitra, sy'n syrthio mewn cariad a morwyn wedi ei halltudio o'r enw Mālavikā.
- Abhijñānaśākuntalam ("Adnabod Shakuntala"), yn adrodd stori'r brenin Dushyanta, sy'n cyfarfod Shakuntalā tra allan yn hela ac yn ei phriodi. Mae gŵr doeth yn rhoi melltith ar Shakuntala, sef y bydd Dushyanta yn ei hanghofio'n llwyr nes iddo weld y fodrwy a adawodd ef gyda hi. Cyll Shakuntala y fodrwy, ac nid yw Dushyanta yn ei hadnabod nes i bysgotwr gael hyd i'r fodrwy.
- Vikramōrvaśīya ("Ynghylch Vikrama ac Urvashi"), hanes y brenin Pururavas a'r dduwies Urvashi, sy'n sythio mewn cariad.
Barddoniaeth
golyguKālidāsa yw awdur dwy gerdd epig, y Raghuvamsa ("Brenhinllin Raghu") a Kumārasambhava ("Genedigaeth Kumāra"). Mae ei farddoniaeth delynegol yn cynnwys Meghadūta ("Negesydd y Cymylau") a Ṛtusamhāra ("Disgrifiad o'r Tymhorau").