Abraham, Esgob Tyddewi
esgob Tyddewi
Roedd Abraham (bu farw 1080) yn Esgob Tyddewi.
Abraham, Esgob Tyddewi | |
---|---|
Bu farw | 1080 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | Esgob Tyddewi, esgob |
Olynodd Sulien fel esgob pan ymddiswyddodd ef yn 1078. Ddwy flynedd yn ddiweddarch mae cofnod yn yr Annales Cambriae iddo gael ei lofruddio gan y "cenedl-ddynion" (Llychlynwyr) a anrheithiodd Tyddewi. Dychwelodd Sulien fel esgob ar ei ôl.
Roedd ganddo o leiaf ddau fab, Hedd ac Isaac; darganfuwyd croes goffa iddynt yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn 1891.