Abraham Garrod Thomas
Roedd Syr Abraham Garrod Thomas (5 Hydref 1853 – 30 Ionawr 1931) yn feddyg, dyngarwr, ynad, gwleidydd ag yn Aelod Seneddol Cymreig.
Abraham Garrod Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 5 Hydref 1853 Sir Aberteifi |
Bu farw | 30 Ionawr 1931 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Bywyd
golyguGanwyd ym Mhanteryrod, ger Aberaeron yng Ngheredigion, roedd yn fab i Lewis Thomas; roedd ei frawd hyn, John Aeron Thomas, ag oedd yn gyfreithiwr a dyn busnes, hefyd yn Aelod Seneddol.[1][2][3] Roedd e'n siaradwr Cymraeg hyd at yr oedran 13, a cafodd ei addysgu yn Aberdaugleddau. Ym Mhrifysgol Caeredin graddiodd fel M.B. yn 1876, y flwyddyn honno fe ddaeth yn aelod o 'the Royal College of Surgeons of England'. Ar ôl iddo raddio fe astudiodd yn Berlin a Vienna. Daethpwyd yn M.D. yng Nghaeredin yn 1878, a dechreuodd gweithio yng Nghasnewydd. Yn 1892 fe sefydlodd y South Wales Argus.[4] Yn 1915 rhoddodd y ty, 25 Clytha Park, Casnewydd, er mwyn trin plant gyda tiwberciwlosis.[5] Roedd yn berchen ar Mansion House, Casnewydd.
Gwleidyddiaeth
golyguApwyntiwyd Thomas yn Siryf Sir Aberteifi ar gyfer y flwyddyn 1900. Cafodd ei ethol yn aelod seneddol o'r Blaid Ryddfrydol (DU) ar gyfer De Sir Fynwy mewn isetholiad ym 1917, ond ni safodd eto ar ôl hynny. Yn ystod isetholiad Casnewydd ym 1922, roedd yn llywydd ar y Gymdeithas Rhyddfrydol lleol, fe oedd y cyntaf i gael ei gysylltu a i sefyll fel ymgeisydd Rhyddfrydol, ond yn y diwedd fe dewisiwyd William Lynden Moore a oedd yn niwtral yn t gwrthdarw rhwng Rhyddfrydwyr Asquith a cefnogwyr David Lloyd George.[6]
Teulu
golyguYm 1879 priododd Thomas a Eleanor, merch i Richard Hughes Richards o Gasnewydd. Eu mab oedd y cemegydd Richard Noel Garrod-Thomas.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Debrett's House of Commons (1918), t. 160; archive.org.
- ↑ "Sir A. Garrod Thomas, Ll.d., M.d". British Medical Journal 1 (3658): 288. 1931. doi:10.1136/bmj.1.3658.288. PMC 2313772. PMID 20776010. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2313772.
- ↑ Debrett's House of Commons (1901), t. 148; archive.org.
- ↑ Viscount Camrose, British Newspapers and their Controllers (1947), t. 134; archive.org.
- ↑ ''Welsh Outlook'' cyf. 2, rhif 2 (Chwefror 1915). Welshjournals.llgc.org.uk. Adalwyd 6 Mehefin 2014.
- ↑ Chris Cook; John Ramsden (1 Hydref 1997). By-Elections In British Politics. Psychology Press. tt. 24–5. ISBN 978-1-85728-535-2. Cyrchwyd 12 Mai 2012.
- ↑ Edward Hilliard (gol.), The Balliol College Register 1832–1914 (1914), t. 119; archive.org.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Ivor Herbert, Barwn 1af Treowen |
Aelod Seneddol | Olynydd: diddymu'r sedd |