De Sir Fynwy (etholaeth seneddol)

Roedd De Sir Fynwy yn etholaeth seneddol a oedd yn dychwelyd un Aelod Seneddol (AS) i Dŷ Cyffredin Senedd y Deyrnas Unedig rhwng 1815 a 1885.

De Sir Fynwy
Etholaeth Sir
Creu: 1885
Diddymwyd: 1918
Math: Tŷ'r Cyffredin
Aelodau:Un

Hanes golygu

Cafodd yr etholaeth ei chreu gan Ddeddf Ailddosbarthu Seddi 1885 ar gyfer etholiad cyffredinol 1885, a rannodd hen etholaeth Sir Fynwy yn dair. Cafodd yr etholaeth ei diddymu ar gyfer etholiad cyffredinol 1918, pan drosglwyddwyd y rhan fwyaf o'i ardal i etholaeth Mynwy.

Roedd hen etholaeth Sir Fynwy yn drwm dan ddylanwad dau deulu pwerus: y Morganiaid Tŷ Tredegar a Dugiaid Beaufort Gwlad yr Haf. Parhaodd dylanwad y Morganiaid yn etholaeth De Sir Fynwy. Yn 1885 etholwyd y Cyrnol yr Anrhydeddus Frederick Courtenay Morgan fel AS o 1885 tan 1906 pan ymddeolodd ceisiodd ei fab, Courtenay Morgan, (wedi hynny Barwn Tredegar) i'w olynu ond cafodd ei drechu gan dirfeddiannwr dylanwadol arall y Cyrnol Ivor Herbert o Lanarth. Cadwodd Herbert afael ar yr etholaeth tan 1917 pan ymadawodd i Dŷ'r Arglwyddi. Diddymwyd yr etholaeth flwyddyn yn ddiweddarach.

 
Yr etholaeth (mewn pinc) o fewn Sir Fynwy

Ffiniau golygu

Roedd yr etholaeth yn cynnwys rhanbarthau llys ynadon Caerllion, Cas-gwent, Eglwys y Drindod, Trefynwy, Llaneirwg, Rhaglan, Tryleg a Brynbuga yn ogystal â rhannau o fwrdeistrefi trefol Trefynwy a Chasnewydd a phlwyfi dinesig Bedwas a Mynyddislwyn.

Aelodau Seneddol golygu

Blwyddyn Aelod Plaid
1885 Frederick Courtenay Morgan Ceidwadol
1906 Ivor Herbert Rhyddfrydol
1917 Abraham Garrod Thomas Rhyddfrydol
1918 Diddymu'r etholaeth

Canlyniadau etholiad golygu

Etholiadau yn y 1880au golygu

 
Frederick Courtenay Morgan yn Vanity Fair 1893
Etholiad cyffredinol 1885: De Sir Fynwy
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Frederick Courtenay Morgan 4,890 53.3
Rhyddfrydol Syr H M Jackson 4,293 46.7
Mwyafrif 597
Etholiad cyffredinol 1886: De Sir Fynwy
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Frederick Courtenay Morgan 5,235 63.9
Rhyddfrydol O Bryant 2,950 63.9
Mwyafrif 2,285
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1890au golygu

Etholiad cyffredinol 1892: De Sir Fynwy
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Frederick Courtenay Morgan 5,421 53.6
Rhyddfrydol Yr Arglwydd Profumo 4,700 46.4
Mwyafrif 721
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1895: De Sir Fynwy
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Frederick Courtenay Morgan 5,815 52.8
Rhyddfrydol Clfford Cory 5,230 47.2
Mwyafrif 612
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1900au golygu

 
Ivor John Caradoc Herbert

Cafodd Frederick Courtenay Morgan ei ethol yn ddiwrthwynebiad yn Etholiad cyffredinol 1900

Etholiad cyffredinol 1906: De Sir Fynwy
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Ivor Herbert 7,503 54.7
Ceidwadwyr Courtenay Morgan 6,216 45.3
Mwyafrif 1,287
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Etholiadau yn 1910au golygu

Etholiad cyffredinol Ionawr 1910: De Sir Fynwy
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Ivor Herbert 9,738 58.5
Ceidwadwyr F Forestier-Walker 6,910 41.5
Mwyafrif 2,828
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
 
Abraham Garrod Thomas
Etholiad cyffredinol Rhagfyr 1910: De Sir Fynwy
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Ivor Herbert 8,597 56.4
Ceidwadwyr F Forestier-Walker 6,656 45.6
Mwyafrif 1,941
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Ym 1917 Cafodd Syr Ivor Herbert ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi fel y Barwn Treowen a chynhaliwyd isetholiad i ganfod olynydd iddo fel AS De Sir Fynwy.

Is etholiad 1917 De Sir Fynwy[1]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Abraham Garrod Thomas 6769
Annibynnol B Pardoe Thomas 727
Mwyafrif 6,042
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Cyfeiriadau golygu

  • James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8