Ystyrir Abraham Kuyper (29 Hydref 18378 Tachwedd 1920) yn un o'r diwinyddion fu'n gyfrifol am ganolbwyntio ar awdurdod y diwygwyr, mewn oes oedd nai llai wedi anghofio amdanynt neu gan amlaf wedi troi i arddel safbwyntiau oedd yn wrthun i syniadau Calfin a'r diwygwyr eraill. Gydag gwaddol y tadau diwygiedig yn sylfaen adeiladodd Kuyper ar hynny fyd-olwg i chwyldroi gwleidyddiaeth, academia, celf a systemau cymdeithasol yr oes. Calfiniaeth oedd calon ei system, y math puraf o Gristnogaeth '...the tresure of the past, the hope of the future.'

Abraham Kuyper
GanwydAbraham Kuijper Edit this on Wikidata
29 Hydref 1837 Edit this on Wikidata
Maassluis Edit this on Wikidata
Bu farw8 Tachwedd 1920 Edit this on Wikidata
Den Haag Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhiniaeth yr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, diwinydd, gwleidydd, academydd, gweinidog yr Efengyl, cyfreithegwr Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog yr Iseldiroedd, Minister of the Interior and Kingdom Relations of the Netherlands, university president of the Vrije Universiteit Amsterdam, university president of the Vrije Universiteit Amsterdam, university president of the Vrije Universiteit Amsterdam, university president of the Vrije Universiteit Amsterdam, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Iseldiroedd, Aelod o Senedd yr Iseldiroedd, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Iseldiroedd, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Iseldiroedd, Aelod o Senedd yr Iseldiroedd, Gweinidog Gwladol, formateur Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • De Heraut
  • De Standaard
  • Prifysgol Vrije
  • Prifysgol Vrije Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolAnti-Revolutionary Party Edit this on Wikidata
PriodJohanna Hendrika Schaay Edit this on Wikidata
PlantC.M.E. Kuyper, Henriëtte Kuyper, Herman Huber Kuyper Edit this on Wikidata
Gwobr/auCadlywydd Urdd Llew yr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
llofnod

Byd-Olwg a Diwinyddiaeth Kuyper golygu

Dywedir fod Kuyper yn gyflawn arfog ac wedi ysgrifennu a sylwebu ar ystod eang iawn o bynciau; Eglwys a Diwinyddiaeth, Gwleidyddiaeth a Chymdeithas, Diwylliant ac Addysg, Materion Tramor a Bywyd Pentrefol, Y Cartref, yr Hunan a'r Cosmos! Roedd yn un o'r athrylithwyr prin hynny wnaeth lwyddo i arwain mudiad poblogaidd (popular movement). Nid oedd yn credu fod llunio a datgan byd-olwg Cristnogol yn mynd ddigon pell. Fe aeth ati i greu sefydliadau i roi'r byd-olwg mewn lle; papur newydd, system addysg a phlaid wleidyddol boblogaidd cyntaf ei wlad. Dywedai Bratt amdano; '...[he] told his followers again and again that their Calvinism needed to be updated, over hauled, translated out of its original idiom to address modern times.' Pwrpas ei ddarlithoedd enwog ar Galfiniaeth yn Princeton yn 1898 oedd ehangu Calfiniaeth o fod yn ddiwinyddiaeth ddogmatig yn unig i fod yn fyd-olwg gynhwysfawr; '...a thoroughly end-of-the-century project, as modern as the modernism he hoped to pit that Calvinism against.'

Anghytunai'n gryf ac yn sylfaenol gyda Moderniaeth ac fe wrthododd ddiwinyddiaeth Ryddfrydol yn gynnar iawn. Condemniodd yr arweinwyr eglwysig hynny yn yr Is-Almaen oedd yn ceisio plygu'r gyffes draddodiadol i fowld yr oes resymoliaethol-wyddonol bresennol. Fe fwria sen ar ysbryd a dylanwadau'r Chwyldro Ffrengig er iddo weld peth rhinwedd megis y shifft wedi'r chwyldro at ffurfiau modern o ddemocratiaeth. Anghytunai gyda 'Reflex Conservatives' mwy nag y gwna gyda 'Forthright Modernists'. Ond y cocyn hitio mwyaf oedd y 'timid observers of precedent' ; hynny yw pobl oedd yn derbyn y status quo yn ddi-gwestiwn.

Mewn oes oedd yn gweld cymdeithas unfath yn rhoi pwyslais ar barhad yr Eglwys Wladol a phwyslais ar system addysg unfath ganolog roedd lladmeru Kuyper am blwraliaeth, amrywiaeth a dewis rhydd yn radical. Yn wyneb hyn gellid dadlau o blaid ac yn erbyn a oedd Kuyper yn 'Ffwndamentalydd' Protestannaidd. Cred Bratt ei fod mewn ymarweddiad ond nid oedd mewn sylwedd. Ystyrir ei grwsâd yn erbyn Moderniaeth fod iddo sêl filwriaethus ac y gellir ei ystyried yn nodweddiadol o garfannau 'ffwndamentalaidd'. Ond o ran sylwedd nid oedd yn debyg i 'ffwndamentalwyr' heddiw; noda Bratt nad oedd yn arddel 'scriptural inerrancy' (fel y mae'r term yn cael ei adnabod heddiw). Yn ogystal credai fod arddel 'Dispensational Premillennialism' yn ffordd o fforeddu ein cyfrifoldeb fel Cristnogion. Dywed Bratt fod ei ddiwinyddiaeth wedi ei wreiddio'n ddyfnach ac yn sicrach na hynny o eiddo ffwndamentalwyr Americanaidd heddiw; ceisia gyflwyno cyflawnder gyfoethog lawn diwinyddiaeth glasurol ddiwygiedig mewn cyferbyniad a math fas, dewis a dethol, Americanwyr ffwndamentalaidd heddiw.

Roedd Kuyper yn '...evangelical Christian, but with a difference.' Mae Bratt yn dod i'r casglid yna ar y sail fod Kuyper wedi profi ail-enedigaeth ac ei fod yn rhannu'r dystiolaeth yma gydag eraill. Roedd yn hybu ac yn hyrwyddo gwaith efengylu a chenhadu ac fe ddefnyddiodd ei gyfnod yn llywodraethu i ddelio a phroblemau moesol fel gor-yfed. Ond '...Kuyper had respect for institutions that the genuine Evangelical, at least the twentieth-century American sort, does not share.' Nid oedd gan Kuyper amynedd i rethreg a chredo fel a ganlyn: Gwleidyddiaeth 'single-issue', y naill yn grefyddol a'r llall ddim, Crist fan yna ond y wladwriaeth fan yna. Yn y bôn, nid oedd ganddo amynedd a phietistiaeth.

Etifeddiaeth Kuyper golygu

Gannwyd Kuyper mewn cyfnod lle'r oedd yr Eglwys Wladol Ddiwygiedig (yn ôl enw) yn cael ei llywodraethu a'i rheoli gan y Wladwriaeth. Rhoes cyrff llywodraethol yr Eglwys le i bregethu a dysgu diwinyddiaeth Ryddfrydol. Mewn ymateb i hyn, dair blynedd cyn geni Kuyper, sefydlwyd eglwys ddiwygiedig rydd. Er fod yna Eglwysi rhydd yn bodoli pan ddechreuodd Kuyper ar ei weinidogaeth, dilyn ei Dad a dechrau ei weinidogaeth yn yr Eglwys Wladol (yr 'NHK') a cheisio ei diwygio y gwnaeth.

Arhosodd oddi mewn i'r NHK hyd 1892 pan daeth tro ar fyd. Erbyn 1885 roedd Kuyper wedi ei leoli mewn Eglwys (NHK) yn Amsterdam. Er ei fod ers 1874 wedi gadael y Weinidogaeth ffurfiol parheuodd i gael sedd fel henadur yn Sasiwn (Consistory) Amsterdam. Yn 1885 fe basiodd sasiwn Amsterdam fesur oedd yn rhoi perchnogaeth o adnoddau ac adeiladau'r Eglwys i'r garfan fwyafrifol uniongred rhag ofn byddai rhwyg (schism) yn digwydd. Er fod gan Kuyper a'r garfan uniongred fwyafrif yn sasiwn Amsterdam roedden nhw'n lleiafrif yn genedlaethol. Er gwaethaf apeliadau fe daflwyd Kuyper allan o'r NHK ac fe'i dilynwyd gan oddeutu 10% o aelodau'r eglwys. Ymunodd ei symudiad ef ac etifeddion rhwyg 1834 a sefydlu eglwys Rydd newydd, yr GKN.

Gwleidyddiaeth golygu

Yn 1872 daeth y blaid Ryddfrydol a chynnig ger bron i yrru ysgolion crefyddol allan o'r farchnad. Cymerodd Kuyper arno ef ei hun i drefnu ymgyrch yn erbyn hyn. Roedd eisoes wedi sefydlu papur dyddiol i'r perwyl hwn; cyhoeddwyd y 'De Standaard' gyntaf yn 1972. Sefydlodd yn ogystal gynghrair genedlaethol i wrthwynebu'r ddeddf addysg yn 1873. Ond fe aeth y straen a'r gwaith di-flino yn drech arno ac fe dorrodd ei iechyd dwy waith. Y tro cyntaf, yn 1875, treuliodd gyfnod i ddod ato'i hun yn Brighton, Lloegr. Yno ar y pryd roedd yr Efengylwr Americanaidd Robert Pearsall Smith a'i symudiad Sancteiddrwydd yn cynnal cyfarfodydd gyda'i bwyslais ar “higher life” - daeth i fwynhau y gymdeithas yma tra yn Lloegr er iddo fod yn feirniadol ohoni wedi hynny. Flwyddyn yn ddiweddarach yn 1876 torrodd ei iechyd eto a thipyn mwy difrifol tro hwn. Bu rhaid iddo dynnu allan o'r sffêr gyhoeddus a rhoi heibio ei gyfrifoldebau am bymtheg mis tra oedd yn dod ato'i hun drwy dreulio cyfnodau yn Nice a Lago di Como.

Wedi dychwelyd i'r bywyd cyhoeddus yn 1878, ac yntau wedi gadael ei swydd wleidyddol yn yr ail dŷ seneddol er mwyn canolbwyntio ar ymgyrchu, aeth ati o'r newydd i frwydro yn erbyn deddf addysg y Rhyddfrydwyr. Aeth ati i gasglu deiseb gan lwyddo i gasglu 305,000 o enwau – camp aruthrol ag ystyried mae dim ond 160,000 oedd etholfraint y wlad ar y pryd. Cododd ac fe unodd fudiad poblogaidd enfawr ac erbyn 1879 roedd y farn boblogaidd gyhoeddus yn erbyn y ddeddf Addysg – serch hynny fe arwyddodd y Brenin y ddeddf. Yn wyneb hyn fe aeth Kuyper ati i sefydlu mudiad cynhwysfawr i ddod a threfn addysg rydd Gristnogol i le – sefydlodd yr 'Association for Reformed higher Education'.

Ymhen blwyddyn unodd Kuyper y gwahanol ffederasiynau, canghennau ac ymgyrchwyr ledled y wlad oedd yn erbyn y ddeddf-addysg i ffurfio plaid wleidyddol newydd – Y Blaid Wrth-Chwyldroadol. Dyma roi geni i fudiad gwleidyddol modern a 'mass-based' cyntaf y wlad. Roedd clybiau (tebyg i ganghennau) dros y wlad ac fe'i hunwyd mewn ffederasiwn cenedlaethol oedd yn ethol pwyllgor canolog i reoli'r blaid. Cadeirydd cyntaf y pwyllgor canolog oedd neb llai na Kuyper ei hun. Degawd yn ddiweddarach (1889) roedd y Blaid Wrth-Chwyldroadol mewn pŵer ac fe luniwyd deddf a fyddai'n dechrau'r daith tuag at arian cyhoeddus i ysgolion crefyddol unwaith yn rhagor. Er i'r had gael ei hau yn 1889 fe gymerodd hi hyd 1917 cyn i'r ysgolion crefyddol gael yr un lefel o gyllideb a'r ysgolion seciwlar.

Er gwaethaf yr amser y neilltua i ymgyrchu yn erbyn y ddeddf Addysg nid gwleidydd 'single-issue' oedd Kuyper. Roedd yn frwd dros faterion eraill hefyd yn enwedig ymestyn yr etholfraint. Gellid olrhain ei ddymuniad i estyn yr etholfraint i theori oedd ganddo am y berthynas rhwng dosbarthiadau cymdeithasol a daliadau diwinyddol. Credai Kuyper fod mwyafrif o werin ei wlad yn arddel uniongrededd, gellid edrych ar boblogrwydd ei ymgyrchoedd gwrth-ddeddf addysg fel prawf o hyn. Yn nhyb Kuyper carfan o'r inteligentzia, honedig oleuedig, oedd y modernwyr. Maen gwbl amlwg felly, o ddilyn theori Kuyper, y byddai'r achos uniongred ar ei hennill o roi pleidlais i'r werin.

Roedd Kuyper bob amser yn meddwl yn lluosog – nid ei fan cychwyn yw hawliau'r unigolyn ond yn hytrach cyfiawnder cymdeithasol '...from mutual obligation for the hearty functioning of the whole.' Dyma oedd sail ei ddaliadau dadleuol (yn ôl safonau ein cymdeithas ni heddiw) ar fater pleidlais i'r ferch. Er y cefnogai ymestyn yr etholfraint fe wrthwynebai ymestyn y bleidlais i'r ferch ar sail y cynsail fod y pwyslais yn syrthio ar yr unigolyn. Craidd ei ddadl oedd y credai mewn ymestyn yr etholfraint i bob Tŷ/Aelwyd gyda'r gred mae'r Tŷ/Aelwyd oedd uned sylfaenol y gymdeithas ac nid yr unigolyn. O ganlyniad creda y dylai merched oedd yn ben ar eu haelwydydd (gweddwon gan amlaf) gael pleidlais ond na ddylai rhai nad oedd yn ben gael pleidlais oherwydd eu bod nhw yn cael eu cynrychioli ym mhleidlais y dyn - cynrychiolydd yr aelwyd.

Serch hynny nid oedd y pwyslais yma ar ddemocratiaeth gymdeithasol ac ymestyn yr etholfraint at ddant pawb yn ei blaid ac fe holltwyd yr arweinyddiaeth yn hanner gyda rhai yn gadael y blaid. O ganlyniad i'r rhwyg, yn eironig ddigon, daeth Kuyper yn ôl i lywodraeth ac erbyn 1901 (tan 1905) yn Brif Weinidog. Yn ôl Bratt ni chyfrifir ei gyfnod fel prif weinidog yn un dra llwyddiannus, ond yn hytrach ei gamp gwleidyddol mwyaf cofiadwy oedd ffurfio clymblaid a phrif elyn traddodiadol Calfiniaeth, y Catholigion. Gwelwyd hyn fel cam strategol sylweddol er mwyn rhoi grym i'w blaid. Ei amddiffyniad am gyd-weithio gyda'r Catholigion oedd; '...[he] knew confessors of Christ when he saw them... catholics qualified and... liberal humanists did not.'

Roedd ei farn a'i ddefnydd o'r wladwriaeth ganolog yn amrywiol. Ar y cyfan dywed Bratt mae rôl ymylol yn unig oedd i'r Wladwriaeth, ei rôl oedd cadw is-adeiledd yn ei le gan gadael i wead a thuedd y gymdeithas ddominyddu gan amlaf. Ar y llaw arall fe welai Kuyper dwf y Wladwriaeth ganolog yn ei ddydd fel cyfrwng i ddelio gyda phroblem tlodi. Credai, os am ddatrys y 'cwestiwn cymdeithasol' o lafur Vs cyfalaf fod hi'n bosib y bydd rhaid ehangu pwerau'r wladwriaeth. Yr hyn a ddywed am yr agwedd yma o feddwl Kuyper oedd; '...justice and order might require bold command.' Yn groes hefyd i'r honiad mae dim ond rôl ymylol a welai Kuyper i'r Wladwriaeth oedd ei benderfyniad pan yn Brif Weinidog i ddarostwng streic gweithwyr y rheilffordd gan ddefnyddio trais. Daeth i lawr fel gordd gan alw'r fyddin i mewn i dorri'r streic. Fe adawodd y modd y deliodd Kuyper a'r streic flas cas drwy'r wlad.

Roedd ei agwedd at y duon yn nodweddiadol o ethos hegomonaidd Ewropeaidd '...inevitable, benevolent and racially endowed' oedd o gwmpas ddiwedd y 19g. Fe ddywed Bacote mewn ymateb i hyn; '...Kuyper was not a perfect figure (his problematic view of race is a glaring example), I was drawn to his vision of Calvinism as a life system that encouraged and even demanded public engagement.'

Dylanwad Kuyper yng Nghymru golygu

Er gwaethaf perthynas agos Cristnogaeth a Gwleidyddiaeth yng Nghymru bychan fu dylanwad Kuyper. Prif ladmerydd Kuyperiaeth yng Nghymru oedd y Parchedig Brifathro R. Tudur Jones gyda'r Athrawon R.M. Jones ac R. Geraint Gruffydd hefyd yn dod i werthfawrogi cyfraniad Kuyper. Gellid casglu fod rhai o fyfyrwyr R. Tudur Jones ym Mangor yn yr 1970au/1980au oedd yn dâl y safbwynt diwinyddol Uniongred tra eto yn weithgar yn wleidyddol yn rhengoedd mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac UMCB wedi dod i werthfawrogi byd-olwg Kuyper. Noda R. Tudur Jones am Kuyper; '...mae darllen ei waith yn datguddio meddyliwr o braffter anghyffredin... y mae'n feddyliwr sy'n haeddu sylw, a mwy na hynny, yn haeddu parch.'

Ffynonellau golygu

  • James D. Bratt: 'Abraham Kuyper – A Centennial Reader' (Paternoster, 1998)
  • Vincent E. Bacote: 'The Spirit in Public Theology – Appropriating the Legacy of Abraham Kuyper' (Baker Academic, 2005)
  • R. Tudur Jones: 'Abraham Kuyper' yn 'Ysgrifau Diwinyddol 2' Noel Gibbard Gol. (Gwasg Efengylaidd Cymru, 1988)