Absalom Fy Mab
Drama fydryddol gan Cynan yw Absalom Fy Mab, a gyhoeddwyd yn 1957.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Comisiynwyd y ddrama fydryddol dair-act hon gan Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Môn 1957.
Mae'n ddrama rymus sy'n portreadu'r ymryson gwleidyddol ac ysbrydol trionglog rhwng Dafydd, brenin Jwda, Absalom fab Dafydd, a Solomon.
Dyma oedd beirniadaeth T. H. Parry-Williams, oedd yn Llywydd Llys yr Eisteddfod yn 1957, amdani:
- Rhyfeddaf yn ddirfawr at y modd y llwyddwyd i wneud y cymeriadau'n bobl gyfan a chryno, ac i wneud y stori a'r plot mor glir a diddryswch. Y mae'r elfen ddramatig wedi ei thrafod yn feistrolgar dros ben ac yn artistig o gynnil, ac y mae gafael eithriadol ar y ddeialog drwyddi, a'r cyffyrddiadau barddonol yn ireiddio'r mynegi.