Afon Ewffrates[1] (Groeg: Euphrátēs; Acadeg: Pu-rat-tu; Hebraeg: פְּרָת Pĕrāth; Arabeg: الفرات Al-Furāt; Twrceg: Fırat; Cwrdeg: فرهات, Firhat, Ferhat) yw'r afon orllewinol o'r ddwy afon fawr sy'n diffinio Mesopotamia, gydag Afon Tigris yn y dwyrain.

Afon Ewffrates
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladTwrci, Syria, Irac Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39.7283°N 40.2569°E, 31.0043°N 47.442°E Edit this on Wikidata
AberShatt al-Arab Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Khabur, Afon Balikh, Q21209613, Q21210392, Q21210587, Q21210652, Q21211048, Q21211065, Q16401289, Q21696944, Q745611, Afon Murat, Karasu, Q2929095, Q2973281, Afon Sajur, Göksu Creek, Q21468328, Q21695122, Q21210543 Edit this on Wikidata
Dalgylch673,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd2,800 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad818 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
LlynnoeddAtatürk Reservoir, Keban Reservoir, Karakaya Reservoir Edit this on Wikidata
Map
Cwch ar Afon Ewffrates yn y Shatt-al-Arab
Yr Ewffrates a'r Tigris

Mae'r afon tua 2,781 km (1,730 milltir) o hyd. Dechreua'r Ewphrates lle mae dwy afon yn cyfarfod, Afon Karasu sy'n tarddu yn ucheldiroedd Armenia i'r gogledd o Erzurum yn Nhwrci ac Afon Murat, sy'n tarddu o ardal i'r de-orllewin o Fynydd Ararat. Mae'r Ewffrates yn llifo trwy Syria, lle mae afonydd Khabur a Balikh yn ymuno â hi. Wedi hyn, nid oes unrhyw afon arall yn ymuno â hi cyn iddi gyrraedd y môr.

Mae'r afon yn llifo trwy Irac, lle mae Afon Tigris yn ymuno â hi i'r gogledd o Basra, yn ne Irac, ac yn ffurfio'r Shatt al-Arab sy'n arwain i'r môr yng Ngwlff Persia. Ar un adeg roedd yr afon yn ymwahanu i nifer o sianeli yn Basra i ffurfio ardal eang o gorsydd, ond sychwyd llawer o'r rhain gan lywodraeth Saddam Hussein yn y 1990au. Yn ddiweddar mae yndrech wedi ei gwneud i ail-greu'r corsydd hyn, gyda rhywfaint o lwyddiant. Gall cychod gyrraedd hyd at ddinas Hit yn Irac, 1,930 km (1,200 milltir) o'r môr ond dim ond 53 medr uwch lefel y môr.

Ceir nifer o gyfeiriadau at yr Ewffrates yn y Beibl a'r Coran. Cyfeirir ati yn Llyfr Genesis fel un o Bedair Afon Paradwys y traddodiad Beiblaidd. Roedd i'r afon ran bwysig yn natblygiad gwareiddiad Sumer yn y pedwerydd mileniwm CC., ac yr oedd nifer o ddinasoedd pwysig ar ei glannau, yn cynnwys Uruk, Umma ac Ur. Dyffryn yr Ewffrates oedd calon ymerodraethau diweddarach Babylonia ac Assyria. Am rai canrifoedd yr afon oedd y ffin rhwng yr Ymerodraeth Rufeinig ac Ymerodraeth Persia.

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 94.