Talaith Al Anbar (Arabeg محافظة الأنبار) yw'r fwyaf yn Irac. Fe'i lleolir yng ngorllewin y wlad, rhwng dyffryn ffrwythlon Afon Euphrates yn y dwyrain a'r ffin â Sawdi Arabia, Gwlad Iorddonen a Syria yn y gorllewin. Ei phrifddinas yw Ar Ramadi.

Al Anbar
MathTaleithiau Irac Edit this on Wikidata
PrifddinasRamadi Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,561,400 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirKingdom of Iraq, Iraqi Republic (1958–1968) Edit this on Wikidata
GwladBaner Irac Irac
Arwynebedd135,000 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMafraq Governorate, Nineveh Governorate, Diyala Governorate, Baghdad Governorate, Northern Borders Province, Karbala Governorate Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.9°N 41.6°E Edit this on Wikidata
IQ-AN Edit this on Wikidata
Map
Talaith Al Anbar yn Irac

Mae rhan fawr o'r dalaith yn ddiffeithdir sy'n gorwedd yn rhan dwyreiniol Diffeithwch Syria, neu'n dir amethyddol ymylol. Mae mwyafrif helaeth y trigolion yn Fwslemiaid Sunni. Mae enw y dalaith yn air Perseg (انبار ’Anbār) ac yn golygu "emporiwm"; atgof o'r amser pan fu'r ardal yr entrepot pwysicaf ar ffiniau gorllewinol ymerodraeth y Sassaniaid. Cysylltir y diwinydd Sunni enwog, Abu Hanifa al-Anbari, sefydlyd Hanaffiaeth, ysgol athronyddol fwyaf y Sunniaid, â'r rhanbarth.

Cyn 1976 Ramadi oedd enw'r dalaith a chyn 1962 Dulaim oedd ei henw. Mae tua 1,300,000 o bobl yn byw yn y dalaith heddiw.[1]

Mae dinas Fallujah yn Anbar a dyma ganolfan y gwrthwynebiad Ba'athaidd a Sunni i'r goresgyniad o Irac gan yr Unol Daleithiau.

Dinasoedd a threfi

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Data'r UN 2003; adalwyd 9 Mai 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-12-15. Cyrchwyd 2012-05-09.
Taleithiau Irac  
Al-Anbar | Arbīl | Bābil | Baghdād | Al-Basrah | Dahūk | Dhī Qār | Diyālā | Al-Karbalā' | Kirkuk (At-Ta'mim) | Maysān | Al-Muthannā | An-Najaf | Nīnawā | Al-Qādisiyyah | Salāh ad-Dīn | As-Sulaymāniyyah | Wāsit