Achsah

merch Caleb, gwraig Othniel

Mae Achsah (/ˈæksə/; Hebraeg: עַכְסָה) (Achsa yn y Beibl Cymraeg Newydd) yn ferch y mae sôn amdani yn Yr Hen Destament / Y Beibl Hebraeg. Roedd hi'n ferch i Caleb.

Achsah
DinasyddiaethCymeriad Beiblaidd
TadCaleb Edit this on Wikidata
PriodOthniel Edit this on Wikidata

Ystyr yr enw

golygu

Mae ystyr yr enw yn ansicr. Mae'r Encyclopedia Biblica yn awgrymu mae'r ystyr yw fferled [1]. Mae Geiriadur Beiblaidd a Duwinyddol Mathetes yn awgrymu addurn neu un sydd wedi ei harddu [2] ac mae Bible Gateway yn awgrymu chwalu'r llen.[3]

Y Naratif Beiblaidd

golygu

Roedd Achsah yn unig ferch Caleb, roedd ganddi dri brawd.[4] Roedd Caleb yn un o arweinwyr llwyth Jiwda yn ystod taith yr Iddewon i wlad yr addewid ar ôl iddynt ffoi o'u caethglud yn yr Aifft.[5] Roedd Caleb yn un o'r 12 ysbïwr a danfonwyd gan Moses i wlad Canaan i asesu gwerth y tir a chryfder y bobl oedd yn ei feddiannu. Fel rhodd am y gwaith addawodd Moses y darnau o'r wlad y bu'n ei hysbïo i Caleb a'i ddisgynyddion.[6] Wrth i'r Israeliad dechrau meddiannu'r wlad o dan arweiniad Josua, maent yn cyrraedd y tir a addawyd i Caleb, Ciriath-arba (ail enwyd yn Hebron) gan lwyddo i ladd tri chawr oedd yn gwarchod y diriogaeth. Wedyn aethant ati i ymosododd ar drigolion Ciriath-seffer (Debir wedyn). Mae Caleb yn addo llaw Achsah ei ferch mewn priodas i'r dyn byddai'n llwyddo i ennill y lle.[7] Othniel fab Cenas, ei nai, bu'n llwyddiannus a chafodd priodi Achsah.[8]

Wedi cael addewid o gael priodi Achsah, mae Othniel yn awgrymu wrth ei ddarpar wraig i fynd at ei thad a gofyn iddo am ran o'i dir fel gwaddol priodas. Mae Achsah yn gwneud hynny ac yn cael parsel o wlad gan ei thad. Mae Caleb yn cytuno ac yn rhoi iddi dir. Wedi derbyn y tir mae Achsah yn gofyn am ragor Dyro i mi fendith: canys gwlad y deau a roddaist i mi; dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. A Caleb a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a’r ffynhonnau isaf. [9]

Hanes diweddarach

golygu

Yn ddiweddarach mae Othniel yn dod yn un o farnwyr Israel [10] ac mae ef ac Achsah yn dod yn rhieni i un mab sydd a'i enw yn cael ei grybwyll yn y Beibl Hathath.[11]

Cyfeiriadau

golygu
Lle fo cyfeiriad yn destun Beiblaidd, bydd dilyn y cysylltiad yn mynd at rifyn Beibl William Morgan Cymdeithas Feiblaidd Prydain a Thramor, 1992 ar wefan Bible Gateway. Am destun mwy cyfoes gellir chwilio am yr un adnodau ar dudalen chwilio Beibl Net

Gweler hefyd

golygu

Rhestr o fenywod y Beibl