Dinas ar y Lan Orllewinol yw Hebron (Hebraeg: חברון Chevron; Arabeg: الخليل Al Khalil). Ers dechrau 1997, mae 80% o'r ddinas dan reolaeth Awdurdod Cenedlaethol Palesteina a'r gweddill yn cael ei rheoli gan Israel. Roedd y boblogaeth yn 2006 tua 167,000, bron i gyd yn Balestiniaid, ac eithio tua 600 o Iddewon.

Hebron
Mathdinas, dinas fawr, bwrdeistref, cyn-brifddinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth215,452 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iSaint-Pierre-des-Corps, Rio de Janeiro Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlywodraethiaeth Hebron, Hebron Subdistrict Edit this on Wikidata
GwladGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Arwynebedd74.102 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr930 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.535°N 35.0986°E Edit this on Wikidata
Map
Gweler hefyd Hebron (gwahaniaethu).

Mae Hebron yn un o ddinasoedd hynaf y Dwyrain Canol. Gerllaw Hebron mae Ogof y Patriarchiaid, lle dywedir bod Abraham, Sara, Isaac a Rebecca wedi eu claddu. Mae'n fangre sanctaidd mewn Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam. Yn Hebron y cyhoeddwyd Dafydd yn frenin teyrnas Israel ac oddi yno y bu'n teyrnasu hed nes iddo goncro Jeriwsalem.

Yn 1929, lladdwyd 69 o Iddewon gan y Palestiniaid, a gorfodwyd y gweddill o'r boblogaeth Iddewig i ffoi. Yn 1994 lladdwyd 29 o bobl oedd yn gweddio ym Mosg Ibrahimi gan Baruch Goldstein, meddyg Americanaidd-Israelaidd, ac anafwyd 125 arall.