Amffibiad sy'n tarddu o nifer o lynoedd, megis Llyn Xochimilco ger Dinas Mecsico, yw'r acsolotl (o Nahwatleg āxōlōtl [aːˈʃoːloːtɬ] o ātl "dŵr" a xōlōtl "un llithrig neu grychiog, gwas"). Salamandr neotenig ydyw, sy'n perthyn i'r salamadr teigr,[1][2][3] ac mae'n anarferol ymhlith amffibiaid gan eu bod yn troi'n oedolion heb fynd trwy fetamorffosis. Yn lle datbylgu ysgyfaint a mynd ar y tir, maent yn aros yn dŵr gyda'u tagellau.

Acsolotl
Enghraifft o'r canlynoltacson, organeb model Edit this on Wikidata
Safle tacsonrhywogaeth Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonAmbystoma Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Axolotl
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Amphibia
Urdd: Caudata
Teulu: Ambystomatidae
Genws: Ambystoma
Rhywogaeth: A. mexicanum
Enw deuenwol
Ambystoma mexicanum
Shaw, 1789

Yn 2010, roedd acsolotod gwyllt ar eu ffordd i ddifodiant[4] oherwydd twf Dinas Mecsico a'r llygredd dŵr sy'n dod o hyn, yn ogystal â bygythiad rhywogaethau goresgynnol megis tilapiaid a draenogiaid. Fe'u rhestri gan y CITES fel rhywogaeth mewn pergyl a chan yr IUCN fel rhywogaeth mewn perygl argyfyngus yn y gwyllt, â phoblogaeth sy'n lleihau. Defnyddir acsolotod yn helaeth mewn ymchwil wyddonol oherwydd eu gallu i aildyfu aelodau'r corff.[5] Yn y gorffennol, bu i acsolotod gael eu gwerthu fel bwyd ym marchnadoedd Mecsico an un o brif fwyddydd yr Asteciaid oeddynt.[6]

Eginyn erthygl sydd uchod am amffibiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  
  2. "Mexican Walking Fish, Axolotls Ambystoma mexicanum" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 15 Mar 2018.
  3. "Axolotols (Walking Fish)". Aquarium Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 April 2013. Cyrchwyd 2013-09-12.
  4. Matt Walker (2009-08-26). "Axolotl verges on wild extinction". BBC. Cyrchwyd 2010-06-28.
  5. Weird Creatures with Nick Baker (Television series). Dartmoor, England, U.K.: The Science Channel. 2009-11-11. Event occurs at 00:25.
  6. "Mythic Salamander Faces Crucial Test: Survival in the Wild". The New York Times. Cyrchwyd 30 July 2015.