Proses fiolegol y mae anifail yn datblygu yn gorfforol ar ôl ei enedigaeth neu'i ddeor, yn cynnwys newid amlwg a chymharol sydyn yn adeiledd corff yr anifail trwy dwf celloedd a gwahaniaethu cellog yw metamorffosis. Mae rhai pryfed, pysgod, amffibiaid, molysgiaid, cramenogion, cnidariaid, ecinodermiaid a twnicatiaid yn cael metamorffosis, sydd yn aml yn mynd law yn llaw â newid ffynhonnell maeth neu ymddygiad. Gellir dosbarthu anifeiliaid i mewn i rywogaethau sy'n cael metamorffosis llawn (holometabolaeth), metamorffosis anghyflawn (hemimetabolaeth), neu ddim metamorffosis (ametabolaeth).[1]

Metamorffosis
Mathcyfnod ym mywyd anifail, proses fiolegol, transformation, change Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gwas neidr yn ei fwrw olaf, yn cael metamorffosis o'i ffurf nymff i lawndwf
Am y nofel fer gan Franz Kafka, gweler Metamorffosis (llyfr).

Mae defnydd gwyddonol y term yn dechnegol fanwl gywir, ac nis cymhwysir at agweddau cyffredinol twf celloedd, gan gynnwys hyrddiadau o dyfu'n sydyn. Mae cyfeiriadau at "fetamorffosis" mewn mamaliaid yn anfanwl ac yn llafar yn unig, ond yn hanesyddol mae syniadau delfrydyddol o drawsnewid a morffoleg, fel ym Metamorffosis o Blanhigion Goethe, wedi dylanwadu datblygiad syniadau esblygiad.

Cyfeiriadau golygu