Plaid Cyfiawnder a Datblygu
Plaid wleidyddol yn Nhwrci yw Plaid Cyfiawnder a Datblygu (Tyrceg: Adalet ve Kalkınma Partisi, talfyrrir fel AKP). Mae'r AKP yn dweud ei bod yn blaid gymhedrol a cheidwadol sy'n argymell economi marchnad rydd ac sydd o blaid aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd i Dwrci.[1] Yn 2005, rhoddwyd aelodaeth dyst i'r AKP yr European People's Party. Enillodd AKP 46.6% o'r bleidlais gan ennill 341 sedd yn etholiad Twrci 22 Gorffennaf 2007.[2] Abdullah Gül, aelod blaenllaw o'r AKP a chyn Weinidog Tramor, yw Arlywydd cyfred Twrci, a Recep Tayyip Erdoğan yw arweinydd y blaid a Phrif Weinidog Twrci. Mae gan yr AKP y canran uchaf o gynrychiolwyr benywaidd yn Senedd Twrci.
Enghraifft o'r canlynol | plaid wleidyddol |
---|---|
Idioleg | rhyddfrydiaeth economaidd, Neo-Ottomanism, Conservative democracy, social conservatism, national conservatism, centralism, Erdoğanism, Euroscepticism |
Label brodorol | Adalet ve Kalkınma Partisi |
Dechrau/Sefydlu | 14 Awst 2001 |
Sylfaenydd | Recep Tayyip Erdoğan, Abdullah Gül, Bülent Arınç |
Pencadlys | Ankara |
Enw brodorol | Adalet ve Kalkınma Partisi |
Gwladwriaeth | Twrci |
Gwefan | https://www.akparti.org.tr/en, https://www.akparti.org.tr/, https://www.akparti.org.tr/ar |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd y blaid ar 14 Awst, 2001. Lleolir ei phencadlys yn Ankara, prifddinas y wlad. Mae'n cael ei ystyried yn blaid canol-de.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Turkish Daily News Archifwyd 2012-07-08 yn archive.today, 2007-07-22.
- ↑ "Secim". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-09-21. Cyrchwyd 2010-06-02.